Cyflwyniad i arfordir Môn

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn pasio drwy rai o dirweddau mwyaf diddorol ac amrywiol yr ynys.
Mae Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn ddynodiadau tirwedd pwysig ac, o ran eu harddwch, gellir eu cymharu gyda Pharciau Cenedlaethol Prydain. Dynodir
AHNE er mwyn cadw a gwella harddwch naturiol yr ynys, yn arbennig ei thirwedd, ei daeareg, ei bywyd gwyllt a'i harcheoleg.
Ffeithiau am AHNE Ynys Môn:
- fe’i dynodwyd yn 1966
- dynodiad arfordirol yw hwn yn bennaf
- mae’r ardal yn 221km sgwâr neu’n 85 milltir sgwâr sydd, yn fras, yn 1/3 o’r ynys
- dyma’r mwyaf o’r 5 AHNE yng Nghymru
Fe geir yma gyflwyniad byr i’r hyn sy’n gwneud arfordir yr ynys mor arbennig, ac mae’n awgrymu’r pethau y byddech efallai’n hoffi cadw golwg amdanynt ar eich ffordd. Mae pob un o’r 10 prif leoliad a restrir ar, neu’n agos iawn, i’r llwybr arfordirol.