Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Taflenni Cerdded: Am Dro ym Môn - Cemaes a Chemlyn

Dau lyfryn hardd yn dangos mannau cerdded o gwmpas Cemaes a Chemlyn.

Am dro ym Môn - Cemaes

Cemaes ar Ynys Môn yw pentref mwyaf gogleddol Cymru. Saif mewn ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol, gydag arfordir garw sy'n arbennig o atyniadol. Y canolbwynt yw'r bae, ei harbwr a'i draeth melyn cysgodol.

Mae llawer o'r tir - rhannau o'r arfordir i'r dwyrain o'r harbwr a thrwyn Dinas Gynfor - ym meddiant a gofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Cemaes yn fan cychwyn ar gyfer nifer o deithiau cerdded aiff a chi ar hyd rhai o rannau harddaf arfordir Cymru.

Ar y ffordd, cewch weld amrywiaeth rhyfeddol o safleoedd hanesyddol - caer o Oes yr Haearn, eglwys ar bentir a hen weithfeydd diwydiannol.

Am dro ym Môn – Cemlyn

Rhan o harddwch arfordir gogledd Môn yw ei gyfoeth o greigiau, baeau bychan a phentiroedd. Ym Mae Cemlyn, y nodwedd naturiol amlycaf yw'r lagwn sy'n cael ei wahanu oddi wrth y môr gan far o raean. Mae'r ardal yn enwog am ei bywyd gwyllt, yn enwedig adar dwr y gaeaf sy'n cael eu denu i'r lagwn ac yn yr haf, môr-wenoliaid.

Mae'r stad 130 ha/321 acer yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel gwarchodfa adar.

Mae'r glannau creigiog yn rhan o'r ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol sy'n rhedeg o gylch arfordir Môn.

Mae'r rhan fwyaf o'r arfordir o gwmpas Cemlyn hefyd wedi'i ddynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cael Copi

Pris: £1.25

Ar gael o: yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ffôn: +44 (0)1492) 860123

Warden: +44 (0)1407 711178

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :