Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn un o’r tirweddau mwyaf amrywiol, prydferth ac arbennig ym Mhrydain.
Cafodd arfordir Môn ei ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1966 a’i gadarnhau yn 1967. Fe’i dynodwyd er mwyn diogelu apêl esthetaidd ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygu amhriodol.
Dynodiad arfordirol gan mwyaf yw’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o 201 cilometr (125 milltir) o arfordir yr ynys ond gan gynnwys hefyd Fynydd Caergybi a Mynydd Bodafon. Mae swm sylweddol o dir arall sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gefndir i’r arfordir. Cyfanswm tir yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym Môn yw 221 cilometr sgwâr (21,500 hectar), a hon yw’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fwyaf yng Nghymru gyda thrydedd ran o’r ynys ynddi.
Caiff nifer o cynefinoedd Ynys Môn eu diogelu ymhellach trwy ddynodiadau’r DU ac Ewropeaidd oherwydd eu gwerth o ran cadwraeth natur, ac mae’r rhain yn cynnwys :
- 6 ymgeisydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- 4 Ardal Diogelwch Arbennig
- 1 Warchodfa Natur Genedlaethol
- 26 o Safleoedd Gwyddonol Arbennig
- 52 o Henebion Rhestredig
Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fe geir hefyd dri darn o arfordir agored heb ei ddatblygu sydd wedi eu dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae’r dynodiadau anstatudol hyn yn ategu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan ymwneud ag oddeutu 50 km (31 milltir) o’r arfordir. Dyma’r rhannau o’r Arfordir Treftadaeth:
- Gogledd Môn 28.6 kms (17 milltir)
- Mynydd Twr 12.9 kms (8 milltir)
- Bae Aberffraw 7.7 kms (4.5 milltir)
Gwaith a Gweithgareddau yn yr Ardal
Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw’r cyflogwyr mwyaf yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mewn rhai achosion, mae’n gyfuniad o’r ddau. Mae ystod y cynnyrch lleol geir ar yr ynys yn amrywio o gaws a siocled i win. Mae llawer o’r cynnyrch lleol hefyd yn organig. Bydd oddeutu 2 filiwn o bobl yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn gan ddenu pobl o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a hefyd ymwelwyr o dramor.
Mae’r ynys yn cynnig nifer o gyfleon hamdden i’r trigolion ac i ymwelwyr, gyda’r mwyafrif yn mwynhau’r traethau tywod gwych a’r golygfeydd ysblennydd.
Rhai o’r dulliau hamddena mwyaf poblogaidd yw hwylio, pysgota, seiclo, cerdded, syrffio gwynt a jet sgïo. Mae’r rhain oll yn rhoi pwysau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar yr un pryd, mae poblogrwydd yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel lle i gynnal y fath weithgareddau yn amlwg yn cyfrannu at yr economi leol.