Adeiladwyd y carchar Fictorianaidd gan Hansom (enwog am Hansom Cab) ym 1829. Yn y carchar, gellir gweld yr unig olwyn draed wreiddol sy'n dal i fod yn ei man gwreiffiol ym Mhrydain, ac mae crocbren yn dal i fod ynghlwm wrth y wal allanol.
Dewch i Garchar Biwmares...
Bydd y carchar yn dal eu gafael ar eich dychymug am amser maith. Fe gaiff yr ymwelydd gipolwg ryfeddol ar fyd y carcharor yn oes Fictoria.
- cewch fynd trwy'r adeilad anferth hwn gyda'i gynteddau tywyll, celloedd moel a digroeso a mannau cosbi
- gallwch ymweld â chell y condemniedig neu brofi tywyllwch y gell cosbi
- cyffyrddwch â'r cadwyni a'r hualau â ddefnyddiwyd ddiwethaf gan garcharorion ganrif yn ôl
Crogwyd William Griffith yn 1830 am geisio llofruddio un o'i ddwy wraig ac yn 1840 cafodd Gaynor Jones ei charcharu am fis o lafur caled am ddwyn chwart o lefrith. Yn 1862 crogwyd Richard Rowlands am lofruddio ei dad yng nghyfraith. Aeth i'w farwolaeth yn protestio ei fod yn ddieuog.