Diogelwch ar y llwybr arfordirol: adeiladau gwag
Un o atyniadau pwysig y llwybr arfordirol yw’r blethora o olion hynafol a diwydiannol sy’n amlwg yn y dirwedd.
Mae’r llwybr yn pasio tomenni claddu, cytiau Gwyddelod, caerau, ffynhonnau sanctaidd, eglwysi, gwaith brics ac adeiladau diwydiannol eraill. Tra bo’r llwybr yn caniatáu i chi fwynhau’r golygfeydd hun, mae’n bwysig cofio eu bod, ar y cyfan, yn eiddo preifat. Peidiwch â mynd i mewn i adeiladau o’r fath oni roddwyd caniatâd penodol i chi wneud hynny. Hefyd – er eich diogelwch eich hun – mae llawer o’r adeiladau hyn mewn cyflwr adfeiliedig, ac ni ddylid mynd i mewn iddynt rhag iddynt gwympo.