Mae trip diwrnod llawn ar Ynys Môn yn cynnwys taith i bentref enwog Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwylllantysiliogogogoch sydd a’r enw hiraf yn Ewrop.
Fe all teithwyr ymweld â’r
Plas Newydd, cartref Marcwis Môn a adeiladwyd yn y 18 ganrif gan y pensaer enwog James Wyatt. Mae gan y tŷ hyfryd hwn ystod arbennig o weithgareddau i fodloni pob chwaeth.
Bydd raid stopio wrth gwrs yn siop James Pringle Weavers am brofiad siopa unigryw ym mhentref Llanfairpwll. Gellir prynu dillad, nwyddau tŷ a bwydydd Cymreig a llawer mwy yma.