The Liverpool Arms Hotel - Biwmares
Mae gan y gwesty hwn hanes sy’n mynd yn ôl i 1706 pan yr oedd masnach brysur rhwng Lerpwl a Biwmares. Mae’n drysor o le, yn westy hardd gydag wyneb Sioraidd. Prif nodwedd y gwesty yw’r Admiral's Tavern, sy’n llawn o gasgliad gwych o gofiannau morol ac eitemau morwrol, yn cynnwys coed o HMS Victory, llong enwog Nelson. Mae’r llety yn cynnwys pedair ar ddeg o ystafelloedd gwely ‘en suite’.
Mae’r gwesty yng nghanol tref hanesyddol ac unigryw Biwmares ar Ynys Môn, funudau i ffwrdd oddi wrth olygfeydd ysblennydd Eryri a’r Afon Menai. Mae bwyd yn elfen hynod bwysig yn ethos y Liverpool Arms. Dewiswch o blith ein bwydlen eang neu rhowch gynnig ar un o brydau arbennig ein Cogydd oddi ar y bwrdd sy’n cael ei ddiweddaru’n ddyddiol. Mae ein Cogyddion yn paratoi prydau amrywiol i’ch temtio gan ddefnyddio cynnyrch ffres Ynys Môn sy’n sicrhau y byddwch bob dydd yn canfod rhywbeth i siwtio eich chwaeth a’ch archwaeth.