Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Gwesty'r Bulkeley - Biwmares



Manylion Cyswllt

The Bulkeley Hotel
Castle Street
Biwmares
LL58 8AW

Ffôn: + 44 (0) 1248 810 415
Ebost:
reception@bulkeleyhotel.co.uk
Gwe: The Bulkeley Hotel

Oriau agor

Trwy'r flwyddyn

Mae Gwesty'r Bulkeley wedi'i leoli yng nghanol Biwmares, yn edrych yn uniongyrchol dros yr Afon Menai, a mynyddoedd Eryri. Wedi'i adeiladu'n wreiddiol yn 1832 gan y teulu Bulkeley, cafodd Gwesty'r Bulkeley ei adeiladu ar gyfer ymweliad gan y Frenhines Fictoria.

Mae'n adeilad rhestredig Gradd A, ac wedi'i adfer yn chwaethus i fod yn westy mawreddog sy’n cynnwys llawer o nodweddion y cyfnod. Mae'r Gwesty, sy'n aelod o’r Best WesternGroup, â 43 o ystafelloedd gwely ‘en-suite’, ynghyd â nifer o ystafelloedd ar gyfer achlysuron arbennig, bwyty, bistro, bar a bar coffi. Mae'r gwesty yn caniatáu i'r gorffennol gymysgu'n osgeiddig gyda'r presennol, a'i bensaernïaeth a chymysgedd o nodweddiontraddodiadol ac offer a chyfleusterau modern a chyfoes.

Mae'r gwesty yn darparu ar gyfer y rhychwant llawn o ofynion bwyd, o bryd dull tafarn syml hyd at wledd gyflawn. Mae'r bistro, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar, yn agored yn ddyddiol o hanner dydd hyd at 9yh i ddarparu prydau ysgafn a phrydau dull tafarn. Mae ein Bwyty Hansom, sydd â hyd at 25 bwrdd, yn darparu ar gyfer prydau nôs 4 cwrs a chiniawau dydd Sul. Yn y ddawnsfa, gyda’i far a’i gyfleusterau ei hun, gallwn letya ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau o hyd at 140 o bobl.

Mae'r tiroedd yn cynnwys teras a gardd gwrw, ble y gallwch fwynhau diod distaw neu goffi a theisennau o'r bar coffi wrth fwynhau golygfeydd gwych o'r Afon Menai a Mynyddoedd Eryri.

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :