Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Ynys Lawd

Croeso i ddinas adar y môr

Os ydych chi eisiau clywed a gweld nythfa o adar y môr, fel arfer mae’n rhaid mynd ar gwch. Ac mae’n anodd dal eich ysbienddrych yn llonydd mewn gwynt grym wyth.

Mae pethau ychydig yn haws yng ngwarchodfa Ynys Lawd ar Ynys Gybi. Yma does ond raid mynd i fyny ychydig at Dŵr Elin, ac o fis Mai i Orffennaf, bydd miloedd o adar yn nythu ar y silffoedd yn y graig o’ch blaen.

Yn ôl y RSPB hon yw “dinas adar y môr”. Mae llu o wylogod a llursod, adar drycin y graig a phalod - yn gwneud sŵn anhygoel. Mae'n olygfa fythgofiadwy.

“Mae’r rhan fwyaf o adar yn nythu ar staciau sydd allan yn y môr,” meddai Dave Bateson o’r RSPB. “Yma does ond raid cerdded 200 metr o’r Ganolfan Ymwelwyr i Dŵr Elin i edrych allan ar wanas gyda miloedd o adar arno."

“Pa ffordd bynnag yr edrychwch chi, fe welwch y môr mawr yn y cefndir. Pe byddai rhywun am gynllunio nythfa o adar y môr ar gyfer ymwelwyr, byddai’n debyg i hyn.”

Os na allwch chi weld yn ddigon da, gallwch fenthyca ysbienddrych, syllu trwy delesgop neu wylio lluniau byw ar y teledu o dri gwahanol gamera. Ar ôl hynny, os crwydrwch chi drwy’r ardal fwyaf o rostir arfordirol yng Ngogledd Cymru, mae’n bosibl y gwelwch chi aderyn arbennig Môn, sef y frân goesgoch.

Math o frân yw hon gyda phig coch ar dro ac mae’n tueddu i droelli’n acrobatig yn yr awyr. Mae’r frân goesgoch yn un o’n hadar prinnaf. Mae un ar ddeg o barau’n nythu yn Ynys Lawd - canran sylweddol o holl boblogaeth y DU.
Mae'n bosibl hefyd y gwelwch chi wiber yn torheulo neu leision serennog yn hedfan uwchben y grug. A thra byddwch chi’n mwynhau eich paned a’ch cacennau yn y caffe a’r ganolfan ymwelwyr newydd, byddwch yn helpu i warchod y cynefin cyfoethog hwn o fywyd gwyllt.

Mae’r holl elw o’r caffe a’r siop yn mynd tuag at gadwraeth. Mae hynny’n cynnwys nwyddau Skinny Dipper. Felly gallwch gael cawod gyda gel tomato a bergamot neu faddon gyda rhosyn mynydd a ffigysen ddu gyda chydwybod glir.

Gallwch hyd yn oed brynu bwyd adar i fynd adref i ddenu adar. Er, mae’n amheus a welwch chi’r frân goesgoch gan mai ei hoff fwyd yw chwilod sy’n byw ar faw gwartheg.


Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :