Caergybi - Tref a Phorthladd Hanesyddol
Caergybi yw tref fwyaf Ynys Môn, a phorthladd fferi prysuraf Cymru. Mae gan y dref gyfoeth o hanes a threftadaeth i’w archwilio, ac mae’n fan delfrydol i gael mynediad i weddill Ynys Cybi a llwybr Arfordirol Ynys Môn. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Eglwys Cybi Sant a’r Gaer Rufeinig, yr Amgueddfa Forol a phromenâd, Parc Gwledig y Morglawdd, a Chanolfan Ucheldre. Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys marina, marchnad stryd ar Ddydd Llun, sinema, siopau ac archfarchnadoedd, a gwerthwyr bwyd / diod. Mae i'r dref gysylltiadau trafnidiaeth da, gan gynnwys gwasanaethau fferi rheolaidd i’r Iwerddon a gwasanaethau trên a bws rheolaidd i weddill y DU.