Mae'r caffi yn boblogaidd ar unrhyw awr o'r dydd
Yn ystod eich ymweliad â’r Oriel be’n well na chael cyfle i ymlacio a mwynhau’r fwydlen amrywiol a blasus yn ein caffi Blas Mwy ar ei newydd wedd.
Bydd Gwenan Rowlands a'i thim yn sicr o’ch croesawu a’ch temptio hefyd i brofi’r llu o brydau cartref. Cynigir hefyd fwydlen arbennig ar gyfer llysieuwyr a phlant.
Mae Blas Mwy yn gaffi trwyddedig.