Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Dal ymlaen i badlo 

Mae Anna Moreno a'i chariad Marc Martin, o Gatalonia, yn mwynhau caiacio drwy'r dyfroedd rhuthr ger Ynys Lawd, Caergybi. "Y peth anoddaf oedd croesi'r tonnau yn torri," cyfaddefodd Anna. "mi wnes ddymchwel rhyw bum gwaith ond rydw i'n falch iawn fy mod wedi llwyddo i wneud y rôl Esgimo. Roedd yn flinedig ond yr wyf wedi mwynhau'r profiad. "

Nigel Dennis, hyfforddwr caiacio o Sea Kayaking UK yng Nghaergybi oedd y dyn cyntaf i gylchfordeithio Prydain mewn caiac. "Mae'r llanw'n llifo am bedair i chwe milltir fôr o amgylch arfordir Ynys Môn, sy'n creu moroedd mawr mewn ardaloedd penodol," meddai. "Dyna beth mae caiacwyr angen er mwyn gwella eu sgiliau."

Mae Anna, Marc a gweddill eu grŵp yn taclo her wahanol pob dydd, gan gynnwys syrffio’r tonnau sy'n cael ei gyrru gan y gwynt oddi ar y traeth yn Rhosneigr.

Mae'r caiacs yn cynnwys popeth rydych ei angen ac eithrio dŵr. Mae hyn yn cynnwys pympiau sbydu dwr, cwmpasau, pebyll, sach cysgu, bwyd a ffwrn, fel y gallwch ddechrau padlo heb ddim oedi.

"Mae caiacio môr yn ffordd o fod yn gysylltiedig â natur sy'n eich galluogi i  gyrraedd mannau nad ydych yn gallu cyrraedd mewn unrhyw ffordd arall," meddai Anna.

Nid bod rhaid i'r amgylchiadau fod yn arw, gallwch badlo ar fôr tawel os ydych yn ddechreuwr, yr atyniad yw bod yn hollol annibynnol.

Mae'n ddadleuol mai Ynys Môn yw prif gyrchfan y DU ar gyfer chwaraeon dŵr. Rhai o'r rhain, ar gyfer jyncis adrenalin yn unig. Fel syrffio barcud - mi wnaiff cyn pencampwr Prydain, Alex Tritten o Rosneigr, ddangos i chi sut i wneud hyn - neu arfordiro.

Efallai yr hoffech chi fod o dan y tonnau, dysgwch sut i ddeifio gyda Anglesey Divers yng Nghaergybi. Mae mwy na mil o longddrylliadau i'w harchwilio oddi ar ein harfordir.

Hefyd fedrwch logi beic neu caiac gan busnes lleol yn Biwmaris wrth fynd ar ei wefan Isle of Anglesey Bike & Kayak Hire neu cysylltu ag 07748872295 am fwy o wybodaeth. 

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :