Mae Canolfan Ucheldre yn ymdrech gymunedol i ddarparu canolfan gelfyddydau, arddangosfeydd a gweithgareddau cymunedol addysgiadol a diwylliannol ar gyfer pobl sy'n byw ger Caergybi a gogledd orllewin Cymru.
Calon Canolfan Ucheldre yw capel lleiandy yn perthyn i urdd Gatholig Ffrangeg, chwiorydd Bon Sauveur (Good Saviour). Daeth y capel ar gael yn dilyn dymchweliad yn 1988 o Ysgol y Cwfaint - adeilad tebyg i gastell oedd yn eistedd uwchben tref Caergybi. Caewyd y cwfaint yn 1982 ac adeiladwyd nifer o unedau dai yn y gerddi. Byddai'r capel wedi'i ddymchwel ond dyfeisiwyd prosiect Ucheldre. Ers hynny mae'r ganolfan wedi'i ymestyn i gyd-fynd gyda'r adeilad gwreiddiol, ynghyd a gerddi, amffitheatr a gardd furiog gyda cherfluniau.
Cynigir dosbarthiadau mewn cydweithrediad a Chyngor Addysgol y Gweithwyr a Phrifysgol Bangor gan gynnwys arlunio o'r byw a phortreadu, paentio dyfrlliw, cyfryngau amrywiol a gwydr. Yn ystod y gwyliau ceir rhaglenni gweithdai celf, drama a dawns ar gyfer pobl ifanc.
Ffilm, theatr, cyngherddau, arddangosfeydd neu weithgareddau, mae'r Ucheldre yn darparu rhywbeth ar gyfer pawb.