Câi'r Brenin Edward I ei adnabod fel Longshanks oherwydd ei daldra, ond roedd gan bobl yr Oesoedd Canol enwau llai canmoliaethau amdano. Yn sicr roedd ganddo ffordd ddi-lol o ddelio ag unrhyw ddadl ynglŷn â materion cynllunio.
Yn 1295 pan ddechreuodd godi Castell Biwmares, ni thrafferthodd ofyn am farn trigolion pentref Llanfaes gerllaw, yn hytrach fe orfododd pawb i symud 14 milltir i ffwrdd i Niwbwrch.
Biwmares oedd yr olaf o’i gestyll ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dechnegol berffaith ac ar ffurf “muriau o fewn muriau”. Byddai’r adeilad hwn a godwyd yn y 13eg ganrif yn cyfateb heddiw i long ofod yn glanio’n ddiseremoni ar Ynys Môn.