The Anchorage, Porth Swtan
Manylion Cysylltu
Church Bay
Ger Caergybi
Ynys Môn
LL65 4EU
Ffôn:+ 44 (0) 1407 730588
Ffacs:+ 44 (0) 1407 730589
Ebost: lindy_wood@hotmail.co.uk
Gwe: The Anchorage
Prisiau Dyddiol
yn cysgu 8 person
£350 - £850 yr wythnos
Amseroedd Agored
Trwy'r flwyddyn
Ym mwthyn yr Anchorage, ar safle bwyty’r Lobster Pot ym Mhorth Swtan, ceir lle cysgu i 8. Mae’n 100 llath o’r traeth baner las tywodlyd, diogel, sydd i’r dim ar gyfer archwilio pyllau glan môr, caiacio môr, gwylio adar a cherdded ar yr arfordir. Ceir 2 gwrs golff gerllaw, ynghyd â mynyddoedd Eryri a’r fferi i Iwerddon.
I fyny’r grisiau – 2 lofft en-suite ddwbl, 2 lofft â phâr o welyau ac ystafell ymolchi. I lawr y grisiau – ystafell eistedd gyda stôf sy’n llosgi coed, wi-fi, ystafell fwyta, cegin, ystafell gyda pheiriannau golchi a sychu dillad, cawod/toiled, gwres canolog drwyddo draw.
Gardd fechan gyda bwrdd picnic, lle chwarae ar lawnt ar gael i’w ddefnyddio. Lleolir yr Anchorage gerllaw tanciau o gimychiaid, felly mae cimychiaid a chrancod ar gael bob amser. AR AGOR DRWY’R FLWYDDYN
Cyfleusterau
- adnoddau golchi
- agored trwy'r flwyddyn
- arhosfa bws o fewn 5 munud
- cadeiriau uchel
- cawodydd
- cotiau
- darperir dillad gwely
- derbynnir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- fferm weithredol
- gardd
- lleoliad glan y môr
- parcio
- siaredir Cymraeg
- sychwyr gwallt
- teledu ar gael