Diogelwch ar y llwybr arfordirol: cŵn
Er mwyn helpu’r llwybr arfordirol ac amaethyddiaeth i gydfodoli, cadwch eich ci ar dennyn tra’n mynd drwy gaeau gydag anifeiliaid fferm ynddynt, ac o dan reolaeth ar bob adeg arall, o barch at ddefnyddwyr eraill y llwybr.
Fe geir rhai rhannau byr iawn lle na chaniateir cwn, er mwyn galluogi mynediad i dir ochr yn ochr â defnydd arall ohono. Dyma restr o’r rhannau hyn.
Y rhan o’r llwybr drwy dir Gorsaf Bwer yr Wylfa. Fe ellir osgoi’r rhan hon drwy ddilyn y lôn gyfagos.
Y rhan o’r llwybr yn union y tu hwnt i Bont y Borth, drwy gaeau cyfagos i Afon Menai, yr holl ffordd at Coed y Môr wrth Bont Britannia. Mae modd osgoi’r rhan hon drwy ddilyn y palmant ar hyd y ffordd fawr.
Un o’r prif faterion a adnabuwyd gan ddeiliaid tir fel rhwystr i agor mynediad newydd i’r arfordir, yw perchnogion cwn anghyfrifol sy’n caniatáu iddynt boeni defaid. Os yw’r llwybr arfordirol am ddod yn fwy cyflawn, yna rhaid defnyddio’r llwybr presennol mewn modd cyfrifol. Gwnewch eich rhan, da chi.
I’r gwrthwyneb, fe allwch weld ambell i gi fferm ar hyd y llwybr arfordirol, ond, yn aml, mae eu cyfarth yn waeth na’u brathiad. Cariwch ffon os ydych yn nerfus, neu ystyriwch gario dyfais atal cn uwchsain (‘ultra-sound’).
Mae’r llwybr ar hyd Traeth Llanddwyn a mynediad i Ynys Llanddwyn ar gau i gŵn rhwng 1 Mai a 30 Medi.