Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Cofnodi  bywydau heddiw ar gyfer pobl yfory

Mae Gwasanaethau Archifau ac Addysg Gydol Oes a Gwybodaeth Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’r cynllun ‘Cymunedau Oed Cyfeillgar’ (a ariennir trwy gynllun Interreg 4A)  i wahodd parau a grwpiau i gymryd rhan mewn cynllun arsylwi cymdeithasol unigryw. Rydym yn awyddus i adnabod pobl sydd yn byw yn Ynys Môn ac yn fodlon cadw dyddiaduron yn ystod 2012.

Byddai’n braf ar ddiwedd y cyfnod petai gennym giplun o fywydau pob cenedl a chenhedlaeth fydd yn galluogi haneswyr ac unigolion y dyfodol  gymharu bywyd bob dydd, agweddau ac argraffiadau'r rhai fu’n byw ym Môn.

Fe hoffem yn fawr weld parau neu grwpiau o wahanol genedlaethau o fewn cymuned yn rhannu a thrafod agweddau o fywyd bob dydd,   eu teimladau, profiadau a dyheadau gyda’i gilydd wrth ymateb i ddyddiaduron y naill a’r llall yn ystod y flwyddyn. Nid oes rhaid i’r parau/grwpiau fod yn perthyn, gallan fod yn gymdogion neu gyfeillion.

Yr unig gyfarwyddyd yr ydym am ei roi ar gynnwys y dyddiadur yw ei fod wedi ei ysgrifennu â llaw - credwn ei bod yn bwysig i ddarllenwyr y dyfodol allu adnabod yr unigolyn drwy’r llawysgrifen. Mae’n fater personol i’r unigolyn pa mor aml mae’n dymuno ‘sgrifennu efallai bydd rhai yn dymuno arsylwi yn ddyddiol ac eraill yn wythnosol, ond rydym yn awyddus i gael ymrwymiad i gofnodi yn y dyddiadur am y flwyddyn gyfan.

Ar ddiwedd 2012 byddwn yn casglu’r dyddiaduron fel rhan o gof cymunedol yr ynys ac fe fyddan yn cael eu cadw fel rhan o gasgliad Archifau Ynys Môn.

Os ydych eisiau gwybod mwy am y cynllun neu eisiau nodi eich bwriad i  gymryd rhan yna cysylltwch â: Bethan 01248 752091 neu Pat 01248 752009 (os nad oes ateb gadewch eich rhif ac fe gysylltwn yn ôl) neu ar e-bost: archifdy@ynysmon.gov.uk
Age friendly communities logo strip
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Archifau Ynys Môn
Ystad Diwydiannol Bryncefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7JA

Cod Archon: 221
Ystafell Ymchwil: +44(0)1248 751930
Ebost: archifdy@ynysmon.gov.uk Swyddog Addysg Archifau: cajlh@ynysmon.gov.uk
Gwe: Cyngor Sir Ynys Môn - archifau

oriau agor

Dydd Llun: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Mawrth: 2pm - 4.45pm (2pm -7pm, pob ail a pedwerydd Mawrth byn y mis)
Dydd Mercher: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Iau: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Gwener: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)

 

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :