Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Cyrraedd y man cychwyn swyddogol

Eglwys Sant Cybi, Caergybi

Pwynt cychwyn swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn yw Eglwys Sant Cybi yng nghanol Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826).

Mae'r eglwys ar safle caer rufeinig, tra bod yr eglwys ei hun yn dyddio o'r unfed ganrif a'r bymtheg.  Mae yna faes parcio cyhoeddus yn union i'r gogledd o'r eglwys, ac mae gorsaf fysus leol o fewn 150 metr. Os byddwch yn cyrraedd ar drên neu ar fferi bydd angen i chi groesi'r bont newydd - Porth Celtaidd - ar draws yr harbwr a fydd yn cysylltu'n uniongyrchol gyda chanol y dref. Mae'r orsaf reilffordd a gorsaf y fferi o gwmpas 700 metr o'r eglwys.

Car

Dilynwch A55 Gogledd Cymru hyd at ei diwedd yng Nghaergybi.  Wrth y cylchfan, ger yr Orsaf Dân - ewch yn syth ar draws yn dilyn yr arwyddion ar gyfer yr A5154 a chanol y dref. Wrth y goleuadau traffig ewch yn syth ar draws.  Trowch i'r chwith wrth gloc y dref. Dilynwch y system unffordd, gan gadw i'r dde yn y fforch a dilyn yr arwyddion ar gyfer gorsaf yr heddlu, heibio hen adeilad y farchnad ac i lawr Stryd Boston.  Trowch i'r dde i faes parcio wrth ymyl Eglwys Sant Cybi.

Bysus gwyliau

Gwasanaeth National Express i Fangor a Chaergybi.  Os byddwch yn dod i lawr ym Mangor (35km/22 milltir o Gaergybi) mae'r gwasanaeth bws lleol rhif 4 yn rhedeg yn rheolaidd i Gaergybi (gweler isod).

Bws

Mae'r gwasanaeth bws lleol rhif 4 yn rhedeg bob hanner awr rhwng Bangor a Chaergybi. Mae gorsaf fysus lleol yng Nghaergybi yn Summer Hill (SH246 827), gyferbyn â hen adeilad y farchnad, i'r gorllewin o Eglwys Sant Cybi.  I gyrraedd yr eglwys, cerddwch i lawr yr allt i ffwrdd o'r orsaf fysus, ar hyd yr ardal sydd wedi ei neilltuo i gerddwyr yn unig a bydd Eglwys Sant Cybi o'ch blaen. Am wybodaeth fwy manwl am wasanaethau bysiau, ewch i'r gwefan Cyngor Sir Ynys Môn: Cyngor Sir Ynys Môn - amserlenni bysiau lleol

Trên

Mae'r holl drenau sy'n gorffen eu taith yng Nghaergybi yn stopio un ai ym mhlatfform 1 neu 2.  Gadewch yr orsaf, ac ewch i'r gorllewin gan groesi pont i ganol tref Caergybi.  I gyrraedd Eglwys Sant Cybi ymunwch â'r stryd fawr sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cerddwyr.

Fferi

Mae glanfa'r fferi ar ochr ddwyreiniol yr harbwr.  Croeswch y bont sy'n cysylltu i'r dref a cherddwch i fyny'r stryd fawr sydd wedi ei phedestreiddio i gyrraedd Eglwys Sant Cybi.
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300

gwybodaeth ddefnyddiol

safleoedd gwe:

Crwydro Môn

Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE

Cerddwyr Ynys Môn

Celticos

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :