Oriel Ynys Môn - Prif Galeri
Dyddiad Arddangosfa
28.07.12 - 16.09.12
David Lloyd Griffith a Daisy Wyn Griffith
Dyma arddangosfa ar y cyd rhwng dau artist sy’n cael eu dylanwadu gan dirwedd Cymru. Mae David Lloyd Griffith yn byw yn Nyffryn Conwy. Yn ddieithriad, mae’n gweithio yn yr awyr agored gan ei fod yn teimlo mai dyma’r ffordd fwyaf gyffrous o baentio, ac un sydd yn hanfodol i’w fynegiant creadigol. Mae Daisy Wyn Griffith yn byw ar Ynys Môn. Mae ei gwaith yn adlewyrchu ei hamgylchfyd agos a’i hymateb i’r teimlad o fod yno ar y pryd.