Mae Ynys Môn yn cynnal rhaglen cyfoethog o ddigwyddiadau trwy’r flwyddyn, felly pryd bynnag yr ydych yn ymweld ar ynys, mae'n bendant mynd i fod rhywbeth ymlaen i chi.
Defnyddiwch ein chwiliadur digwyddiadau i greu eich ymweliad perffaith.
I’r lleygwr, mae bob tarw Henffordd yn edrych yr un fath. Ond i John Astley mae i bob tarw ei rinweddau ei hun.
Oherwydd mae John yn beirniadu gwartheg yn Sioe Amaethyddol Môn. Mae ganddo wybodaeth helaeth am wartheg. Bydd yn astudio pob rhan o’r anifail cyn penderfynu pa un yw’r pencampwr.
“Dw i wedi bod yn beirniadu ers peth amser ac wedi cael ychydig o brofiad gyda gwahanol fridiau,” meddai John. “Yn y pendraw mae eisiau eidion o faint da – a rhywbeth arbennig yn ei gylch.”
Mae hynny’n wir am y sioe ei hun. Am ddeuddydd bob Awst ar faes y sioe yng Ngwalchmai, daw Ynys Môn i gyd at ei gilydd i ddathlu cynnyrch ein hynys.
Mae'n sioe bwysig. Yr ail sioe amaethyddol fwyaf yng Nghymru : 57,000 o ymwelwyr, 3,000 o arddangoswyr a 350 o stondinau masnach ar dros 160 o erwau. Yn 2012 bydd yn dathlu 125 o flynyddoedd o fod wrth galon y gymuned wledig.
“Mae dod i Sioe Môn yn ffordd wych i gyfarfod â ffermwyr eraill,” meddai Sonia Davies o Fferm Cefn Coch yng Nghemaes. “Mae'n llawer pwysicach nag ennill.”
Er mae'n hawdd dweud hynny pan mae eich Holsteins wedi ennill nifer o wobrau’n barod. A phan mae eich merch yn tywys llo o’r enw Betty Boo o gwmpas y cylch yn y dosbarth Trinwyr Ifanc.