Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Galeri Janet Bell


Ym mis Tachwedd 2007, cafodd Galeri Janet Bell ei aned yn nhref brydferth Biwmares, Ynys Môn. Mae'n arddangos ac yn gwerthu gwaith artist cyfoes Janet Bell. Paentiadau gwreiddiol, printiau a chardiau o arfordir hardd Ynys Môn a Gogledd Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r printiadau yn unigryw i'r galeri. Mae hefyd yn stocio pecynnau pwyth croes, matiau diod a matiau Janet yn ogystal â'r brand newydd o decstilau a gynlluniwyd gan Janet -Stiwdio Janet Bell.  Mae'r hyn a ddechreuodd yn wreiddiol fel stiwdio lle'r oedd Janet yn peintio ac yn gwerthu printiau a chardiau gwreiddiol wedi troi i mewn i'r oriel roedd yn breuddwydio perchen un diwrnod.
Mae Janet wedi bod yn peintio yn llawn amser ers 2003 ond yn gweithio i nifer o siopau dillad ac orielau dylunio gan gynnwys Habitat. Roedd yn caru prynu a gwerthu ac yn gwybod rhyw ddydd byddai'n dymuno cyfuno popeth roedd yn mwynhau.

Roedd ganddi’r syniad cryf na fyddai'n ond yn gwerthu gwaith llaw artistiaid a dylunwyr roedd yn caru; p'un a yw'n gerdyn y byddai'n anfon, pâr o glustdlysau byddai'n gwisgo neu lun a fyddai'n addurno ei wal.
Mae wedi dod i gyd at ei gilydd fel cymysgedd hardd, hynod o gynnyrch unigryw sy'n ymddangos i apelio i bob oed ac yn gwarantu gwên.
Ar ôl dechrau bywyd mewn uned fach thu mewn i hen gapel, symudodd y galeri yn 2009 i safle mwy o faint ar Stryd y Castell yn adeilad hen Banc Lloyds. Mae'r Galeri newydd yn dal i fod yn gartref i'r cawr o saff gwreiddiol sydd nawr wedi'i lenwi at yr ymylon gyda gemwaith, goleuo a dodrefn meddal. Yn ogystal â'r brif ardal arddangos ceir man arddangosfa fechan newydd ar gyfer artistiaid, er mwyn i chi dreulio cryn dipyn o amser yno. Mae'r oriel yn awr yn stocio gwaith dros 50 o artistiaid Prydeinig annibynnol gan gynnwys cerameg, tecstilau, paentiadau gwreiddiol, printiau, cardiau, gemwaith a goleuadau.

Yn 2011 enillodd y Galeri Gwobr Aur yng Ngwobrau Twristiaeth Ynys Môn ar gyfer y Celf a Chrefft gorau ar Ynys Môn.

manylion cyswllt

Janet Bell Gallery
Ariandy, 15 Stryd y Castell
Biwmares
Ynys Môn
LL58 8AP

Ffôn: +44 (0)1248 810043
Symudol: 07778 983733
Ebost: info@janetbellgallery.com
Gwe: www.janetbellgallery.com
Facebook: https://www.facebook.com/janetbellgallery
Twitter: http://www.twitter.com/Janet_Bell

oriau agor

Dydd Llun - Sadwrn 10:00 am - 5:00pm
Dydd Sul 11:00 am - 4:00pm
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :