Mae Môn yn ymfalchïo yng nghyfoeth ei hamrywioldeb daearegol, ac nid yw yn unlle mor amlwg ag o gwmpas arfordir 125 milltir yr ynys.
Mae’r ynys yn meddu ar yr eangderau hynaf o greigiau yn Ynysoedd Prydain, i’r de o Ucheldiroedd yr Alban. O’r strimyn calchfaen dwyreiniol, y tywodydd a chwythwyd gan y gwynt a lafa clustog Llanddwyn, i forlin trawiadol o arw Rhoscolyn ac Ynys Lawd, mae gan arfordir Ynys Môn lawer i’w gynnig i bawb a chanddynt ddiddordeb mewn materion daearegol, neu i’r rheiny sydd, yn syml, dim ond yn edrych am olygfeydd ysblennydd.
Yn economaidd, fe gafodd cyfoeth mwynol yr ynys ei ddatblygu ac mae’r dystiolaeth i’w gweld yn glir yn ffurf chwareli, y mae amryw ohonynt yn britho’r morlin. O werth arbennig oedd yr haenau calchfaen a ddarparodd gerrig adeiladu ar gyfer codi adeiladau nodedig fel Neuadd Tref Birmingham, ynghyd ag i ailgodi dinasoedd fel Lerpwl a Manceinion yn dilyn yr ail Ryfel Byd. Fe ellir dod o hyd i chwareli o’r fath yn Llanddona, Penmon, Moelfre a Chaergybi.