Fel un o'r safleoedd harddaf a mwyaf cyffrous ar Ynys Môn - codwyd y goleudy ar Ynys Lawd ar arfordir gogledd-orllewinol Môn fel pwynt cyfeirio i gychod y glannau, ac i helpu llongau sy'n croesi Môr Iwerddon rhwng porthladdoedd Caergybi a Dun Laoghaire.
Hanes y Goleudy
Deisebwyd Brenin Siarl II yn 1645, pan oedd yr holl oleudai yn eiddo preifat, am batent i godi goleudy ar Ynys Lawd. Gwrthodwyd y cais. Ond, 143 o flynyddoedd ar ôl y ddeiseb wreiddiol cymerwyd Ynys Lawd ar brydles gan Dŷ'r Drindod a dechreuodd y gwaith o godi goleudy. Yn 1809 cafodd y goleudy ei ddylunio gan Daniel Alexander am gôst o £12,000 a chafodd lamp olew yr orsaf eu cynnau am y tro cyntaf ar Chwefror 9fed. Yn 1828 fe adeiladwyd pont grog haearn i gysylltu'r goleudy gyda'r grisiau ar waelod y clogwyn.
Dros gyfnod tyfodd y goleudai yn fwy ac yn fwy effeithiol ac erbyn 1938 darparwyd goleuni trydan yn lle'r ddarpariaeth olew. Yn 1964 cafwyd gwared o'r hen bont haearn ac yn ei le adeiladwyd pont newydd o alwminium. Dechreuodd y goleudy weithredu'n awtomatig yn 1984 a gadawodd y ceidwad olaf. Heddiw, caiff y goleudy ei fonitro a'i reoli drwy gyswllt cyfrifiadurol o Ganolfan Reoli Gweithrediadau Tŷ'r Drindod yn Harwich, Essex.
Ynys Lawd a natur