Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Gwarchodfa Natur Lleol Nant y Pandy

Yr Afon Cefni

Mae Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy yn ddyffryn coediog 10 hectar (25 acer) gyda'r afon Cefni yn rhedeg drwyddo. Daw'r gair Cefni o'r gair Cymraeg "cafn".

Mae Nant y Pandy yn ddyffryn gydag ochrau serth ac fe gafodd ei ffurfio yn ystod yr oes iâ ddiwethaf o ddŵr rhewlifol a oedd wedi dadmer - hwn yw'r rheswm am un o'i enwau yn yr iaith Gymraeg sef Nant y Dilyw.
Mae'r enw Nant y Pandy yn cyfeirio at hen waith prosesu gwlân a oedd yn arfer â'r bod i fyny'r afon.

Mae llawer o'r warchodfa yn goetir hynafol a dyna'r rheswm iddo gael yr enw "Y Dingle" mor bell yn ôl â'r 1830au. Yn llythrennol mae'r gair Dingle yn golygu dyffryn coediog serth.

Mae'r warchodfa yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys glas y dorlan, yr iar ddŵr, llwynogod, ystlymod,a gwas y neidr. Mae rhannau o'r coetir hynafol yn sioe ysblennydd o glychau gog a cennin pedr gwyllt yn y gwanwyn.
Cafodd yr ardal ei gwella'n ddiweddar drwy gysylltiad cymunedol, gweithio mewn partneriaeth a chymorth grant.
Fflag Gwyrdd

Mae'r gwaith gwella yn cynnwys llwybr bordiau pren sy'n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau, meinciau wedi ei cerflunio a byrddau picnic.

Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae'r llwybr yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn ac mae modd ei gerdded gyda chadeiriau gwthio.




Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Llangefni
Map OS 114: SH4557
Tel: +44 (0)1248 752428

amseroedd agor

Dim cyfyngiadau mynediad

Darganfod Nant y Pandy

Darganfod Gwarchodfa
Natur Nant y Pandy

Pecyn Addysg Nant y Pandy
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :