Gwarchodfa Natur Clogwyni Ynys Lawd
Saif gwarchodfa Ynys Lawd yr RSPB, sy'n cynnig rhywbeth i bawb, ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, a cheir yma glogwyni môr trawiadol, golygfeydd gwych o'r glannau a lethrau grugog.
Rhwng dechrau Mai a chanol Awst mae'r clogwyni yn brysur iawn fel safle nythu'r adar môr (yn cynnwys nifer fechan o balod), a bydd blodau'r gwanwyn yn ildio i'r eiliwiau piws o'r hydref wrth i'r grug ddechrau blodeuo.
Gwelir y frân goesgoch prin a ddrawiadol, gyda'i thraed a'i phig coch, drwy gydol y flwyddyn. O Dŵr Ellin mae golygfeydd bendigedig o glogwyni'r adar môr ac ar draws Môr Iwerddon, a gallwch grwydro'r warchodfa gyfan drwy ddilyn rhwydwaith o lwybrau.