Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Gwybodaeth am y porthladd

Gwasanaethau a chyfleusterau'r derfynfa llongau teithio

Gan mai dyma'r porthladd prysuraf i longau gwyliau prysuraf yng Nghymru, yn denu'r llongau mwyaf yn Ewrop, mae staff profiadol bob amser wrth law i helpu gyda phob agwedd ar yr ymweliad ymlaen llaw, wrth i'r llong gyrraedd a thra mae yn y porthladd.

Ceir fws cyflym yn rhad ac am ddim i deithwyr ar y llongau teithio i ganol y dref, i'r ardal siopa a'r atyniadau lleol. Mae digon o le i geir a bysus barcio ar ochr y cei.

Bydd croeso cynnes ac adloniant yn eich disgwyl ar ochr y cei. Gall teithwyr a chriw ddefnyddio'r swît ryngrhwyd am ddim, pori yn y sip am grefftau lleol ac anrhegion ac ymlacio ar ochr y cei tra'n sgwrsio gyda ein tîm gwybodaeth twristiaeth cyfeillgar a chynorthwyol. 

Mae angorfeydd dŵr dwfn ar ochr fewnol y morglawdd.  Darperir gwasanaeth peilot ac mae'n rhaid defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Dim cyfyngiadau ar led rhesymol nag "air draught" o fewn yr harbwr.  Mae gwasanaeth lansio ar gael a'r holl wasanaethau porthladd arferol.

Llywio

  • Mae llywio yn orfodol ac ar gael ar alwad. Mae'r croesiad llywio byr yn caniatau i longau cael eu angor yn ddiogel oddeutu awr o gyrraedd y porthladd.
  • Mae Mynydd Caergybi a'r morglawdd 1.3 mile hir yn cysgodiu'r harbwr o'r prifwynt. Nid oes chyfyngiadau llanw ar gyfer angorfa llongau teithiol.
  • Ceir cwch tynnu ar gyfer cymorth angori a mae'n bosib i drefnu gwasanaeth lansio.

Gwybodaeth Angori

"Max ship dimensions:"
  • "Length: 300 mts
  • Draft: 11 mts
  • No beam or air draft restrictions"

Ceir gwybodaeth ychwanegol can safle gwe Porthladd Caergybi

Diogelwch

Mae diogelwch yn y porthladd yn bodloni gofynion ISPS.  Mae'r porthladd yn borthladd fferi mawr yn y DU ac felly mae iddo'r safon uchaf o ddiogelwch.  Mae'n cael ei oruchwylio gan system camerâu diogelwch sy'n cofnodi'n ddigidol ac mae tîm diogelwch unswydd ar gael ar y safle 24 awr y dydd.

Y gorsafoedd trên agosaf

Mae Gorsaf Caergybi yn y porthladd ei hun ac yn cysylltu'n uniongyrchol â Lundain, Caerdydd a rhwydwaith rheilffordd y DU.

Pellter i ganol y dref

0.8kms/0.5mls

Meysydd awyr

Maes Awyr Môn (y Fali)  8km/5milltir 
Maes Awyr Lerpwl John Lennon 168km/104milltir
Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion 195km/122milltir
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Gwybodaeth am y porthladd

I gael gwybodaeth am unrhyw wasanaethau sy'n cael eu cynnig cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Harbwr Feistr
Porthladdoedd Stenaline Cyf
Tŷ Stena
Caergybi
LL65 1DQ

Porthladd (24awr) +44 (0)1407 606700
neu'r Harbwr Feistr +44 (0)1407 606775

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :