Hanes ac archaeoleg arfordirol Môn

Siambr Gladdu Trefignath, Caergybi
Mae sôn fod mwy o safleoedd hynafol ym Môn nac yn unrhyw le arall yn Ynysoedd Prydain, ac ni cheir tystiolaeth fwy gweladwy yn unman na honno ar hyd morlin yr ynys.
Nid oedd yr ymsefydlwyr cyntaf fyth ymhell o'r môr, ac fe brofir hyn gan safle Trwyn Du, Aberffraw, o Ganol Oes y Cerrig, ynghyd â chladdgelloedd y ffermwyr cynharaf, a welir ym
Marclodiad y Gawres ym Mhorth Trecastell, Trefignaeth ger Caergybi ac yn Lligwy ger Moelfre. Mae'r presenoldeb Celtaidd a chynhanesyddol hwn yn ganfyddadwy hefyd yn nifer y caerau amddiffynedig o Oes yr Haearn, fel Caer y Twr yng Nghaergybi, sy'n edrych dros Fôr Iwerddon, a Dinas Gynfor ger Cemaes neu'r un a chanddi'r enw enigmatig, Bwrdd Arthur, sy'n edrych dros Draeth Coch. Hyd heddiw, y celfi a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach ger y Fali yw'r casgliad ardderchocaf o arteffactau Celtaidd a ddarganfuwyd yng Nghymru.
Fe geir cryn nifer o eglwysi Môn ar hyd traethlin yr ynys. Fe leolir enghreifftiau ardderchog o eglwysi canoloesol ym Mhenmon, Llaneilian a Llangwyfan, ac mae Eglwys Sant Beuno yn Aberffraw yn cynnwys olion o'r eglwys frenhinol ym mhrif ganolfan wleidyddol brenhinoedd Gwynedd. Gerllaw Niwbwrch, fe allwch weld olion Llys Rhosyr a gloddiwyd yn ddiweddar, tra cysylltir eglwys Llanddwyn ar Ynys Llanddwyn â Santes Dwynwen.
Yn cael eu cynrychioli hefyd ar hyd morlin Ynys Môn y mae olion mwy diweddar ei hanes diwydiannol. Ar ochr ogleddol yr ynys, mae olion llawn awyrgylch hen weithfeydd brics, fel y rheiny ym Mhorthwen, Porth Llanlleiana a Chemaes gyda'u simneiau uchel, yn nodwedd weledol annisgwyl. Ar hyd yr un darn o forlin fe geir Porth Amlwch, cadarnle olaf hwylio. Ar yr arfordir deheuol, mae'r ddwy bont dros y Fenai yn gampweithiau peirianyddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe agorwyd pont grog Telford ddydd Llun 30ain Ionawr 1826, a phont diwb gyntaf y byd,
Pont Britannia, ar 18fed Mawrth 1850, dim ond i gael ei hailadeiladu yn dilyn tân ym 1970, a'i hailagor gyda nid yn unig dec rheilffordd ond lôn hefyd, a ymgorfforwyd i mewn i'r bont.