Penrhos Arms Hotel - Llanfairpwll
Manylion Cyswllt
Penrhos Arms Hotel
Holyhead Road
Llanfairpwll
LL61 5YQ
Ffôn: + 44 (0) 1248 714892
Ebost:
karen@oneill9327.freeserve.co.uk
Oriau agor
Trwy'r flwyddyn
Mae Gwesty’r Penrhos Arms ym mhentref enwog Llanfairpwllgwyngyllgogerychwryndrobwllllantysiliogogogoch.
Mae’n dafarn bentref swynol gydag ardaloedd bar a bwyta ar wahân. Mae’r fwydlen yn cynnig amrywiaeth ardderchog o fwydydd cartref traddodiadol ynghyd â phrydau llysieuol, pysgod ffres a helgig, gan ddefnyddio cynnyrch lleol pryd bynnag bo’n bosib, fel Cig Eidion Du Môn a Chig Oen Môn.
Mae’r Rhestr Win yn cynnig detholiad helaeth o winoedd o dros y byd i weini gyda’ch bwyd, ac i gyd-fynd â phob chwaeth. Gellir darparu ar gyfer diet di-glwten a di-wenith ar gais.