Tre-Ysgawen Hall Country House Hotel and Spa - Llangefni
Manylion Cyswllt
Tre-Ysgawen Hall Country House Hotel & Spa
Capel Coch
Llangefni
LL77 7UR
Ffôn: + 44 (0) 1248 750750
Gwe: Treysgawen Hall
Oriau agor
Trwy'r flwyddyn
Mae’r Bwyty yn Nhre-Ysgawen yn cynnig bwydlenni cyffrous sy’n newid yn gyson, ac yn defnyddio’r cynnyrch lleol a rhanbarthol gorau un. Pan gyfunir y rhain gyda’r rhestr win a ddetholwyd yn arbennig, mae gennych brofiad ciniawa byth gofiadwy.
Mae’r Rhestr Win yn cynnwys llawer o winoedd gorau Ffrainc, a detholiad eang o winoedd y byd newydd a hen. Mae’r Bwyty yn agored i rai nad ydynt yn aros yn y gwesty, ond mae archebu’n hanfodol. Darperir ar gyfer diet llysieuol ac arbennig, a bydd ein staff yn falch o’ch cynorthwyo gyda’ch holl anghenion. Yn agored drwy’r wythnos am ginio canol dydd a chinio nôs – Defnyddio’r cynnyrch lleol a rhanbarthol gorau un’.
Mae awyrgylch anffurfiol a gwledig Bar Gwin a Chaffi’r Tŵr Cloc yn ei wneud yn lle perffaith i chi ymlacio ar ôl pwysau’r dydd. Wedi ei adeiladu ar safle’r hen Dŵr Cloc, fel mae’r enw’n awgrymu, mae gan y Bar Gwin nenfwd cromennog gwych a chwrt gyda waliau o’i amgylch, sy’n berffaith ar gyfer prydau ‘al fresco’. Dewiswch o ddetholiad o brydau poeth ac oer, cacennau a ‘patisserie’, yn ogystal â thê, coffi, diodydd meddal, a detholiad da o winoedd fesul gwydriad neu botel.