Llety a chyfleusterau ger y llwybr arfordirol
Moelfre
Llety cyfagos i'r Llwybr Arfordirol
Mae rhestr llety'r llwybr arfordirol bellach ar gael ar gais.
Danfonwch ebost gwag i llwybrarfordirol@ynysmon.gov.uk gan roi Llety yn y blwch pwnc. Bydd y rhestr llety yn cael ei ddanfon yn awtomatig i'ch blwch post.
Os dymunwch gopi caled, danfonwch gais i sylw:
Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW
Cyfleusterau ar hyd y Llwybr Arfordirol
Mae rhestrau o’r gwasanaethau lleol sydd ar gael ar hyd y Llwybr Arfordirol bellach ar gael. Mae rhestrau ar gael fel chwe ffeil PDF y gellir eu lawrlwytho, pob un ohonynt yn ymwneud â dwy ran o’r llwybr arfordirol fel sydd wedi ei ddisgrifio ar y wefan hon. Mae’r manylion yn cynnwys safleoedd bws, meysydd parcio, toiledau, tafarndai, llefydd bwyta a siopau defnyddiol eraill, eu hunion leoliad yn ogystal â gwybodaeth am eu pellter o’r llwybr arfordirol.