Goleudy Ynys Lawd
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl.
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).
Ffeil ffeithiau
Hyd: 125 milltir / 200km
Esgyniad / disgyniad dros y llwybr cyfan: 4,174 medr / 13,695 troedfedd
Man cychwyn swyddogol: Eglwys Sant Cybi, Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826)
Cyfartaledd nifer y dyddiadau i'w gwblhau'r daith: 12
Trefi / pentrefi yn uniongyrchol ar y llwybr: 20
Oes modd cwblhau pob rhan yn defnyddio cludiant cyhoeddus: Oes
Uchafbwyntiau
Mynydd Twr (y pwynt uchaf ar yr ynys), goleudy a chlogwyni môr
Ynys Lawd, bwâu môr ym Mwa Gwyn (Rhoscolyn), Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys), a Phorth Wen, Ynys Llanddwyn,
Pont y Borth, Pont Britannia, eglwysi Llangwyfan (Aberffraw) Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy), Gwarchodfa Natur Cemlyn, a Thrwyn a
Phriordy Penmon. Hefyd Brain Coesgoch, Hebogau Tramor, Gwenoliaid y Môr, Llamhidyddion, Morloi a blodau gwyllt y gwanwyn.
Cysylltiadau enwog
Fe fu Oliver Cromwell yn aros yn y ‘George & Dragon’ ym Miwmares ym 1643. Y Morrisiaid o Bentre-Eiriannell, Dulas yn y 1700au. Fe ysgrifennodd Charles Dickens ddyddiadur digwyddiadau am ddryllio’r ‘Royal Charter’ ym Moelfre, 1859. Bu
C Tunnicliffe yn byw ac yn darlunio bywyd gwyllt ym Malltraeth (1950-1979). Bu
Kyffin Williams (Artist) yn byw ar Afon Menai. Pentref enwog; Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Cyfeillion y Llwybr Arfordirol
Gwobrwyir unrhyw un sydd wedi cwblhau'r 125 milltir o'r Llwybr arfordirol gyda bathodyn arbennig a thystysgrif yn adnabod y gamp. I hawlio eich bathodyn llenwch y ffurflen arlinell ar safle we Cyfeillion y Llwybr Arfordirol.
Dolenni defnyddiol
Dilynwch y dolenni isod am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiadau unigol.