Gwesty teuluol yw’r Getws Dderw (Oak Lodge) , gyda bar a bwyty, sydd wedi’i leoli ym Moelfre, Ynys Môn. Mae ein bwyty’n gweini prydau cartref blasus ac mae’n agored i breswylwyr a’r rhai nad ydynt yn aros yn y gwesty.
Mae ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ansawdd ein bwyd, y gwerth am arian anhygoel, a’r prydau sylweddol. Paratoir ein bwyd yn ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol pryd bynnag bo’n bosib, ac mae’n hynod boblogaidd gyda’r nos.