Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Oriel Kyffin Williams

Mae’r oriel hon yn deyrnged priodol i un o artistiaid enwocaf a mwyaf uchel ei barch yng Nghymru. Yn ei haelioni, rhoddodd Syr Kyffin Williams dros 400 o waith celf gwreiddiol i Oriel Ynys Môn, o sgetsys i ddarluniau i waith olew sylweddol.

Mae’r Oriel yn diogelu’r casgliad mawr a phwysig hwn â balchder arbennig, er budd pobl Môn a’i hymwelwyr. Mae’r arddangosfeydd yn amrywio o gasgliad creiddiol Oriel Ynys Môn i gasgliadau a fenthycwyd gan sefydliadau ac unigolion.

Arddangosfeydd Oriel Kyffin 2012

Ysbrydoliaeth Ynys – Kyffin a Tunnicliffe
Hyd at Mawrth 4

Addangosfa arbennig o waith Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe a’u perthynas unigryw ag Ynys Môn. Bydd y lluniau yn yr arddangosfa yn cynnwys rhai o gasgliad yr Oriel ynghyd â gwaith o gasgliadau preifat a chyhoeddus.

O’r Aelwyd i’r Oriel
Mawrth 17 – Hydref 7

Cyfle arbennig a phrin i weld rhai o weithiau Kyffin Williams sy’n addurno waliau cartrefi ar draws y wlad. 


Gwobr Lluniadu Kyffin Williams
Hydref 20 – Ionawr 20, 2013

Mae Gwobr Lluniadu Kyffin Williams yn hyrwyddo a gwobrwyo talent a rhagoriaeth mewn lluniadu. Mae’r gystadleuaeth yn agored i artistiaid sefydlog a rhai sy’n datbylgu’r grefft a chaiff ei beirniadu dan feini prawf penodol gan banel o feirniaid. Yn yr arddangosfa hon, ceir detholiado’r gwaith fu’n llwyddiannus.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Oriel Ynys Môn
Rhosmeirch
Llangefni
Ll77 7TQ

Ffôn: +44 (0)1248 724444
Ffacs: +44 (0)1248 750282
Ebost: orielynysmon@ynysmon.gov.uk

Siop Jac Do
Ffôn:
+44 (0)1248 752004

Caffi Blas Mwy
Ffôn: +44 (0)1248 751516

amseroedd agor

Bob dydd: 10.30am - 5pm

MYNEDIAD AM DDIM

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :