Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Galeri Syr Kyffin Williams yn Oriel Ynys Môn

Oriel Ynys Môn

Gwobrwywyd yr Oriel am 2010 mewn gwobrwyon blynyddol mawreddog Partneriaeth Twristiaeth Môn. Mae'r Oriel wedi'i gymeradwyo am safon ei siop - Jac Do - sy'n gartref i ystod eang o grefftau ynghyd a'r caffi Blas Mwy ar ei newydd wedd sy'n boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol.

Gall ymwelwyr sydd yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant a hanes yr ynys fwynhau’r Oriel Hanes sy’n rhoi cyflwyniad i orffennol yr ynys trwy sain, delweddau, ad-gynhyrchiadau a chreiriau gwir. Mae un rhan o’r Oriel Hanes wedi ei neilltuo i waith un o arlunwyr bywyd gwyllt enwocaf yr Ugeinfed Ganrif, Charles F Tunnicliffe. Mae’r casgliad unigryw yma o luniau yn cofnodi cyfoeth bywyd gwyllt Môn.

Mae gan Oriel Kyffin Williams raglen ddeinamig a newidiadol o arddangosfeydd yn cwmpasu gwaith yr artist. Mae’r arddangosfeydd yn amrywio o gasgliadau creiddiol Oriel Ynys Môn i gasgliadau a fenthycwyd gan sefydliadau ac unigolion.

Yn ein Prif Oriel Gelf, cynhelir hyd at wyth arddangosfa’n flynyddol gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhynglwadol, tra mae'r Oriel Hir a'r Oriel Ganoyn arddangos chwech arddangosfa.  
Mae’r orielau celf yn gyfle i artistiaid, cerflunwyr, crefftwyr a pherfformwyr i gyflwyno’u gwaith gan hyrwyddo celfyddyd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Trwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnal gweithgareddau unigol- gweithdai i blant a theuluoedd ac ambell i sgyrsiau arbennig. Cofiwch bori drwy ein calendr digwyddiadau er mwyn sicrhau nad ydych yn methu unrhyw weithgaredd.

Felly, beth bynnag fydd pwrpas eich ymweliad, estynnwn groeso cynnes i chi.

Lawrlwytho'r ddogfen

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Oriel Ynys Môn
Rhosmeirch
Llangefni
Ll77 7TQ

Ffôn: +44 (0)1248 724444
Ffacs: +44 (0)1248 750282
Ebost: orielynysmon@ynysmon.gov.uk

Siop Jac Do
Ffôn:
+44 (0)1248 752004

Caffi Blas Mwy
Ffôn: +44 (0)1248 751516

amseroedd agor

Bob dydd: 10.30am - 5pm

MYNEDIAD AM DDIM

Accredited Attraction
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :