Mae’r Gwanwyn yn bendant wedi cyrraedd Parc Gwledig y Morglawdd Caergybi. Y peth cyntaf a welwch wrth fynd i gerdded ar hyd llwybr yr arfordir ar y Rocky Coast yw carpedi o Lygad Ebrill ond oes edrychwch chi’n fwy agos efallai y byddwch chi’n gweld ychydig o Grinllys y Goedwig ymysg y blodau melyn euraidd. Mae blodau porffor Seren y Gwanwyn yn dechrau dangos eu hunain ar yr arfordir ac fe’i dilynir yn fuan gan binc y Glustog Fair.
Mae’r ddau blanhigyn hyn yn rhai sydd i’w gweld fel arfer yn ardaloedd arfordirol gorllewin y DU.
Ar hyd y gwrychoedd byddwch yn dechrau gweld Blodau’r Neidr, Llysiau’r Llwynog gyda blodau melyn yr Eithin yn dominyddu ym mhob man arall.
Mae llawer o adar wedi dychwelyd i’r ardal yn yr wythnosau diwethaf. Gellir gweld Gwenoliaid uwchben y llyn yn bwydo ar y lliaws o bryfaid bychan sydd wedi deor yn ddiweddar a gellir gweld niferoedd bychan o ddrywod melyn yn gwibio o lwyn i lwyn. Mae Clochdarod y Cerrig yn awr yn fwy cyffredin ar yr Arfordir Creigiog ac ardal y rhostir ynghyd â thinwennod a llinosiaid. Gellir gweld Piod Mor a Bilidowcars ar hyd yr arfordir a Brain Coesgoch a Gweilch Tramor uwchben y clogwyni. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus hefyd i weld Tyllan Fach wrth i chi grwydro o amgylch y Parc. Ar y llynnoedd a’r pyllau gellir gweld yr ieir dwr yn hawdd ac ambell i grëyr glas.
Wrth ymweld â'r parc yn ystod misoedd y gwanwyn, cofiwch gymryd sylw o’r newyddion tywydd a pharatowch am bob tywydd eithriadol.