Rhan 2: Porth Trwyn (Llanfaethlu) – Cemaes
Mae'r rhan hon o'r llwybr yn cynnwys rhai ardaloedd mwyaf anghysbell yr ynys a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol biau ac sy'n gofalu am ran helaeth o'r arfordir. Mae traethau bychain creigiog yn ymdoddi i glogwyni serth sy'n ymdroelli ac yn plygu'r holl ffordd i Drwyn Carmel gan fynd heibio bwa yn y môr ac Ynys y Fydlyn.
Byddwch yn mynd heibio gwarchodfa natur yng Nghemlyn cyn cyrraedd Gorsaf Bwer Niwcliar anferthol Wylfa gan orffen ym mhentref bach tlws Cemaes.