Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Sut i gyrraedd rhannau y llwybr

Trwyn Du ac Ynys Seiriol, Penmon

Rhestrir yma fanylion am sut i gyrraedd rhannau y llwybr arfordirol.

Car

Fe wasanaethir y llwybr arfordirol gan tua 75 o feysydd parcio, y rheolir y mwyafrif ohonynt gan yr Awdurdod Lleol.  Maent wedi’u marcio ar fapiau Ordnans.  Fe geir nifer o feysydd parcio eraill sy’n eiddo preifat, nad ydynt at ei gilydd yn cael eu dangos ar fapiau Ordnans.  Mae’r mwyafrif o feysydd parcio gwledig am ddim, ond mae rhai yn codi am barcio yn ystod misoedd yr haf yn unig.

Trên

Yn ogystal â’r brif orsaf drenau yng Nghaergybi, fe all trenau aros, ar gais, yng ngorsafoedd y Fali (1 filltir / 1.6km o’r Llwybr), Rhosneigr (1 filltir / 1.6km), Ty Croes (2 filltir / 3km), Bodorgan (2 filltir / 3km) a Llanfairpwll (1 filltir / 1.6km).  Nid yw yr un o’r rhain yn bell iawn o’r llwybr arfordirol, ac fe allent ddarparu modd cyfleus o ddychwelyd i’ch man cychwyn os yn ystyried cylchdaith ar arfordir y de orllewin.

Beic

Er mai cymharol ychydig o’r llwybr arfordirol ei hun sy’n hygyrch i feics, fe geir digon o gyfle i gyfuno teithiau cerdded ar hyd y Llwybr gyda seiclo yn yr ardaloedd mewndirol.  Fe osodwyd rheseli beics yn ddiweddar (2004) mewn 34 o leoliadau sy’n gyfagos i’r llwybr.

Bws

Fe geir sawl gwasanaeth bws i bob un o’r trefi arfordirol ar yr ynys, ynghyd â gwasanaethau rheolaidd sy’n rhedeg o gwmpas arfordir gogleddol yr ynys ar yr A5025 ac, yn llai aml, ar yr A4080.  Yr unig lefydd nad oes iddynt wasanaethau rheolaidd yw corneli gogledd orllewin a gogledd ddwyrain yr ynys – sef Pen Bryn yr Eglwys (‘Carmel Head’) a Llaneilian, yn y drefn honno – y pen dwyreiniol – Penmon – a rhwng Aberffraw a’r Fali yn y de orllewin. 

Hwyrach mai un o’r dulliau hawsaf - a mwyaf difyr - o gwblhau’r llwybr arfordirol cyfan, yw drwy ei gerdded mewn rhannau unionlin, yn defnyddio’r bws i ddychwelyd i’r man cychwyn.  Mae mapiau’r llwybr a’r disgrifiadau ar y wefan hon yn dangos y llwybr arfordirol cyfan mewn 12 rhan.  Mae’r wybodaeth isod yn dangos sut y mae cludiant cyhoeddus yn cysylltu â mannau cychwyn/gorffen y 12 rhan.

Rhan 1 - Caergybi i Borth Trwyn (Llanfaethlu)

Mae gwasanaeth bws 61 yn mynd rhwng Caergybi ac Amlwch bob 1-2 awr.  Ym Mhorth Trwyn, fe fydd angen i chi gerdded 2km / 1.25 milltir arall at yr arhosfan bysiau yn Llanfaethlu.

Rhan 2 - Porth Trwyn (Llanfaethlu) i Gemaes

Mae gwasanaeth bws 61 yn mynd rhwng Caergybi ac Amlwch bob 1-2 awr.  Unwaith eto, ym Mhorth Trwyn, fe fydd angen i chi gerdded 2km / 1.25 milltir arall at yr arhosfan bysiau yn Llanfaethlu

Rhan 3 - Cemaes i Borth Amlwch

Mae gwasanaethau bysiau 60, 61 a 62 yn mynd rhwng Amlwch a Chemaes (60) bob 3-4 awr, Caergybi ac Amlwch (61) bob 1-2 awr, a Bangor i Gemaes (62) 3 gwaith y dydd.  Mae’r arhosfan bysiau yn Amlwch (Lôn Goch) yn 0.75km / 0.5 milltir arall o Borth Amlwch.

Rhan 4 - Porth Amlwch i Foelfre

Mae gwasanaeth bws 62 yn mynd rhwng Bangor ac Amlwch bob ½ awr i awr.       

Rhan 5 - Moelfre i Bentraeth

Mae gwasanaeth bws 62 yn mynd rhwng Bangor ac Amlwch bob ½ awr i awr.  Mae’r arhosfan bysiau ym Mhentraeth yn 1km / 0.62 milltir arall o’r llwybr arfordirol ar draeth Pentraeth.

Rhan 6 - Pentraeth i Fiwmares

Mae gwasanaeth bws 50 yn mynd rhwng Llangefni a Biwmares bob tair awr.  

Rhan 7 - Biwmares i Borthaethwy / Llanfairpwll

Mae gwasanaeth bws 57 yn mynd rhwng Biwmares a Bangor bob awr i gyrraedd Porthaethwy, ac mae gwasanaethau 4 a 42 yn mynd rhwng Porthaethwy a Llanfairpwll bob ½ awr. 

Rhan 8 - Moel y Don i Ddwyran

Mae gwasanaeth bws 42 yn mynd rhwng Niwbwrch a Bangor bob 1 awr a ½.

Rhan 9 - Dwyran i Aberffraw

Mae gwasanaeth bws 42 yn mynd rhwng Niwbwrch a Bangor bob 1 awr a ½.

Rhan 10 - Aberffraw i Bontrhydybont (Y Fali)

Mae gwasanaeth bws 25 yn mynd rhwng Aberffraw a Chaergybi bob 2-3 awr.  Ym Mhontrhydybont, fe fydd angen i chi gerdded milltir arall at yr arhosfan bysiau yn y Fali ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Rhan 11 - Pontrhydybont i Drearddur

Mae gwasanaeth bws 4 yn mynd rhwng Caergybi a Bangor bob ½ awr.  Mae gwasanaeth bws 23 yn mynd rhwng Caergybi a Rhosneigr bob 2 awr.

Rhan 12 - Trearddur i Gaergybi

Mae gwasanaeth bws 4 yn mynd rhwng Caergybi a Bangor bob ½ awr.

Am wybodaeth fwy manwl am wasanaethau bysiau, ewch i'r gwefan Cyngor Sir Ynys Môn: Cyngor Sir Ynys Môn - amserlenni bysau lleol
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300

gwybodaeth ddefnyddiol

safleoedd gwe:

Crwydro Môn

Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE

Cerddwyr Ynys Môn

Celticos

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :