Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Tirlun arfordirol Môn

Ynys Llanddwyn

Mae gan arfordir Ynys Môn dirwedd cymharol agored a bryniog.

Yn edrych dros forlinau’r gogledd a’r gogledd-orllewin fe geir clogwyni môr hynafol trawiadol, tra ar ochr ddwyreiniol yr ynys, fe geir clogwyni calchfaen llai sy’n darparu cyferbyniad diddorol.

Fe nodweddir arfordir y de orllewin gan gyfres o benrhynau a chanddynt faeau tywodlyd rhyngddynt, ynghyd â thwyni sy’n amgylchynu corsydd bas.  Mae dau gulfor llanwol – sef Afon Menai, a’r Môr Mewnol – yn darparu tirweddau arfordirol mwy cysgodol sy’n ddeniadol iawn. Mae’r coetiroedd yn wasgarog, gyda’r rhan fwyaf wedi’u cyfyngu i lannau Afon Menai a’r arfordiroedd dwyreiniol.  Oherwydd eu huchder, eu graddfa a’u maint, mae mynyddoedd Eryri yn tremio dros y dirwedd, yn enwedig ar hyd arfordir y de orllewin.  Mae’r olygfa yn gymhares wych i dirwedd mwy meddal a bryniog yr ynys.

Y 10 prif leoliad o ran eu tirwedd

  1. Llanbadrig i Borthwen (yr arfordir gogleddol, cyfeirnod grid SH404 944) 
  2. Ynys Arw i Dwr Ellin, Ynys Lawd, (Mynydd Twr, cyfeirnod grid SH217 830) 
  3. Ynys Llanddwyn (Niwbwrch, cyfeirnod grid SH388 630) 
  4. Clogwyni Rhoscolyn (i’r gorllewin o Roscolyn, cyfeirnod grid SH260 760) 
  5. Ynys y Fydlyn (i’r gogledd o Borth Swtan, cyfeirnod grid SH292 917) 
  6. Clogwyni Penrhosfeilw (i’r gogledd o Fae Trearddur, cyfeirnod grid SH217 798) 
  7. Aberffraw i Borth Cwyfan (Aberffraw, cyfeirnod grid SH345 677) 
  8. Traeth yr Ora (i’r gorllewin o Ligwy, Moelfre, cyfeirnod grid SH489 884) 
  9. Trwyn a Phriordy Penmon (i’r dwyrain o bentref Penmon, cyfeirnod grid SH640 812) 
  10. Rhwng y ddwy bont, Afon Menai (i’r de o Lanfairpwll, cyfeirnod grid SH546 717)
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :