Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Traeth Llanddwyn

Traethau o safon

Rydym yn edmygu archwilwyr y Faner Las. Nid gwaith hawdd yw pwyso a mesur mwy na 30 o feini prawf gwahanol ar gyfer ansawdd y dŵr, rheoli sbwriel, rheoli cŵn a moeseg amgylcheddol tra bod y gweddill ohonom yn gorweddian ar gadeiriau haul neu’n codi cestyll tywod. Mae archwilio traethau Môn yn siŵr o fod yn dasg anodd. Mae 125 milltir o forlin o bob maint a siâp.

Baeau bach a childraethau creigiog. Traethau tywod hir. Yn Niwbwrch mae traeth gyda choedwig wrth ei ymyl. Ac yn 2011 llwyddodd chwech ohonynt i gael y Faner Las.

Benllech, Swtan, Llanddona, Llanddwyn, Port Dafarch a Bae Trearddur. Heb sôn am y saith traeth a gafodd Wobr Glan Môr oherwydd eu bod yn lân, yn ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda. Yna'r 16 a gafodd Wobr Arfordir Gwyrdd am eu traethau gwledig naturiol.

Diolch byth nad oes raid i’n harchwilwyr fesur ansawdd yr hufen iâ neu’r pyllau glan môr. Byddai’r gwaith yn ddiddiwedd. A beth bynnag, mae’r cyfryngau’n rhoi sylw i hynny.

Er enghraifft, yn ôl papur newydd The Times, cafodd cilfach gysgodol Porth Dafarch ei gynnwys yn y rhestr ‘The 40 Best British Beaches’. Ac yng nghylchgrawn Coast, roedd traeth Lligwy wedi ei gynnwys yn un o’r ‘10 Best Picnic Spots by the Sea’. 

Roedden nhw'n canmol y rholiau selsig a chig moch yn y caffi ar y traeth gwastad braf hwn (sy’n berffaith i badlo ynddo). Roedden nhw hefyd yn hoffi’r cacennau cartref a hufen iâ Plas Farm. Ac oedden, roedden nhw’n hoffi’r pyllau glan môr hefyd.

Wnaethon nhw ddim hyd yn oed sôn am y gorad, yr ynys lle gallwch weld morloi, dolffiniaid a llamhidyddion - neu’r cwt ar y traeth sy’n gwerthu popeth o fyrddau corff i lochesi gwynt. Efallai eu bod yn mynd i gysgu ar ôl yr holl fwyd.

Os byddwch chi neu eich plant yn awyddus i wneud rhywbeth mwy anturus na chael picnic, gallwch fod yn dawel eich meddwl gan fod tîm o wardeniaid ar nifer o’n traethau yn ystod yr haf i helpu i gadw pawb yn ddiogel a thrin unrhyw fân anafiadau.

Yn nhraethau Benllech neu Draeth Bychan, dau draeth sy’n denu teuluoedd, efallai y gwelwch ein patrolwyr jet-sgi sydd wedi eu hyfforddi i gadw golwg ar y môr. Efallai y gwelwch chi archwilwyr traeth hefyd. Nhw fydd yn rhoi’r ticiau yn y blychau
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

gwybodaeth ddefnyddiol

Am wybodaeth ar gyfyngiadau cŵn ar draethau gweler Cyngor Sir Ynys Môn - cyfyngiadau cŵn ar draethau Môn

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Gwelir gwefan y Blue flag (Saesneg yn unig) i weld rhetr lawn o'r traethau sydd wedi derbyn gwobrau

Cadwch ein traethau'n lân gydag awgrymiadau o gwefan Cadwch Gymru'n Daclus 

Gwelch awgrymiadau sut i fod yn ddiogel yn y dŵr ar wefan River and sea sense - gwybodaeth diogelwch gweithgareddau dŵr

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :