Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

dau berson yn seiclo ar darck coedwig gyda chymylau hyfryd o'u blaenau

Beicio

Pa ffordd well i fwynhau harddwch naturiol Ynys Môn nag ar gefn beic?

Wedi’r cyfan, mae beicio’n rhoi cyfle i chi fynd yn ôl eich pwysau, teimlo’r awel trwy eich gwallt a mwynhau’r golygfeydd a’r tirweddau arbennig sy’n nodweddu Ynys Môn.

Mae Ynys Môn yn croesawu beicwyr, gan mai yma y mae dwy o’r naw lôn feicio sydd yn y Deyrnas Unedig. Beth am fynd ar hyd Lôn Las Copr, neu Lwybr 566 yn ôl y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

Mae hon yn gylchdaith 36 milltir yng ngogledd ddwyrain yr ynys, lle byddwch yn gweld yr unig felin wynt sy’n dal i weithio yng Nghymru yn ogystal â thirwedd Mynydd Parys sy’n debyg i wyneb y lleuad. Heriwch eich hun a beiciwch arni’n groes i’r cloc gan fwynhau’r golygfeydd o ben rai o’r gelltydd serth.

Neu gallwch fynd ar Lôn Las Cefni sy’n ddi-draffig ac yn ddelfrydol i’r holl deulu. Mae'n 13 milltir ac yn llawn o fywyd gwyllt a natur. Ac ar ôl i chi fynd ar hyd lonydd beicio Ynys Môn, beth am herio eich hun trwy gymryd rhan yn ein Ras Feicio arbennig, y Tour de Môn.

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau