Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Teulu o 3 o bobl yn chwarae yn y tywod yn creu castell tywod

Traethau

Does dim byd gwell na gwario diwrnod diog ar y traeth!

A gan fod hon yn ynys gyda 125 o forlin arbennig, mae dewis da o draethau ar Ynys Môn.

Os yw diwrnod da ar y traeth yn golygu mynd â phentwr o beli, bwcedi, rhawiau a rhwydi pysgota gyda chi neu baratoi picnic blasus a mwynhau’r harddwch o’ch cwmpas, yna does dim i guro ein traethau ni.

O draethau tywodlyd hir fel Traeth Coch lle mae’r môr, y tywod a’r awyr yn ymestyn i’r pellter, i faeau creigiog mwy cartrefol fel Porth Dafarch neu Borth Swtan, lle mae llwybrau ar y clogwyni a phyllau glan môr i chi chwilota ynddynt.

Gallech osod her i chi’ch hun trwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth codi castell tywod ym Menllech, gwisgo eich siwt wlyb a mentro i’r môr i hwylfyrddio ym Mae Trearddur a Rhosneigr, neu ddarganfod hanes Santes Dwynwen a rhyfeddu at olygfeydd godidog Eryri wrth i chi rwyfo i Ynys Llanddwyn.

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau