Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Lansiad modur wedi'i angori yn Afon Menai gydag adlewyrchiad yn y dŵr

Lansio cychod a defnydd morol

Cofrestrwch i lansio'ch cwch a mynediad i'r gwasanaethau morwrol

Cynllun cofrestru

Mae yna gynllun cofrestru ar gyfer badau dŵr personol (sgïau jet) ac unrhyw fadau pŵer ar Ynys Môn.

Yn ogystal, bydd ffi lansio yn daladwy mewn rhai safleoedd. Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni isod os gwelwch yn dda.

Is-ddeddfau lleol

Dylai perchenogion cychod pŵer a badau dŵr personol sicrhau eu bod yn gyfarwydd gyda’r is ddeddfau lleol mewn perthynas â’r defnydd o gychod pleser ar arfordir Môn.

Dygwn eich sylw yn benodol at y cyfyngiad cyflymdra o 8 milltir forol ym mhob un o’r 26 o ardaloedd y mae ein his-ddeddfau glan môr a chychod pleser yn berthnasol iddynt. Bydd copi ar gael i chi edrych arno gan y goruchwyliwr lansio perthnasol.

Yn ogystal, atgoffir cychod sgi bod rhaid iddynt gael sylwedydd yn y cwch, yn ogystal â’r gyrrwr, bob amser y bydd sgïwr yn y dŵr.

Gellir erlyn y rheini sy’n torri is-ddeddfau Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer cychod pleser glan môr a thynnu oddi wrthynt eu caniatâd i ddefnyddio cyfleusterau lansio’r cyngor.

Gwybodaeth morwrol a chofrestru dolen allanol yn agor mewn tab newydd

Morwrol
Cyngor Sir Ynys Môn
Canolfan Busnes Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA

Ffôn: 01248 752 449