Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Llys Biwmares

Ystafell y llys

Gyferbyn â Chastell Biwmares mae'r Llys, a adeiladwyd ym 1614 ac a adnewyddwyd yn y 19eg ganrif. Yma, gall ymwelwyr gerdded drwy'r ystafell lys fawr hirsgwar, sefyll yn y doc gwreiddiol a gweld ysblander ystafell yr uchel reithgor.

Mae murlun cryptig yn dangos buwch, gydag un ffermwr yn ei thynnu gerfydd ei chyrn, un arall yn eil thynnu wrth ei chynffon - a chyfreithiwr yn ei godro! Cynhaliwyd y brawdlys olaf yma ym 1971.

Rhai o droseddwyr a fu'n sefyll yn y doc yn Llys Biwmares:

  • 1742:  Lladron Crigyll ger Rhosneigr am ddwyn o longau a ddrylliwyd oddi ar arfordir Ynys Môn.
  • 1786:  Cafodd Hugh Hughes ei chwipio yn gyhoeddus drwy strydoedd pedair tref ar yr ynys am ddwyn bwyd.
  • 1816:  Gloddestwyr bwyd o Amlwch gafodd ei cosbi am geisio atal yr allforio ŷd mewn amser o newyn.
  • 1910:  William Murphy a laddodd ei gariad ar ddydd Nadolig wedi iddi hi ei adael am ddyn arall.

Yn yr hen adeilad hwn gallwch:

  • sefyll yn y doc
  • dysgu sut mae llys barn yn gweithredu
  • clywed am droseddwyr enwocaf Môn
  • ymweld ag ystafell y carcharor a dilyn ei gamau i'r doc
  • gweld arddangosfa o wisgoedd ac addurndlysau cyfreithiol.
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
Gweld fy nheithlen
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Castle Street
Biwmaris
LL58 8BP
 
Ffôn: +44 (0) 1248 811691

oriau agor

Ebrill – Medi
Dydd Llun - Dydd Iau; Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10.30am – 5pm (a Dydd Llun gŵyl y banc) neu ar adegau eraill drwy drefniant ymlaen llaw
Agored pob penwythnos a wythnos hanner tymor yn ystod mis Hydref

gwybodaeth ddefnyddiol

Mynediad:

Oedolion: £3.50
Consesiwn a Phlant: £2.70
Teulu: £11.50

Ceir tocyn ar y cyd ar gyfer y Carchar a'r Llys

Unigolyn: £6
Consesiwn a phlant: £4.50
Teulu(4): £2

 

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :