Teithiau Cerdded gydag Arweinydd ar y Llwybr Arfordirol
Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg rhaglen o deithiau cerdded gydag arweinydd gydol y flwyddyn: fel arfer, cynhelir y teithiau unwaith y mis ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ddydd Mercher.
Yn gyffredinol, mae dwy fath o daith: teithiau hwy o 6-8 milltir a rhai byrrach rhai 3-4 milltir, mae’r rhai cyntaf fel arfer yn rhai mwy heriol a’r rhai 3-4 milltir yn fwy ar gyfer y rheini sydd eisiau cerdded yn hamddenol.
Mae’r rhan fwyaf o’r teithiau cerdded yn rhai cylchol yn cynnwys rhannau o’r Llwybr Arfordirol wedi’u cysylltu gyda llwybrau mewndirol. Mae’r holl deithiau yn anffurfiol, ac yn cynnig awyrgylch delfrydol i gyfarfod pobl ac i wneud ffrindiau. Gan ddibynnu ar bwy sy’n arwain, efallai y cynigir, yn ystod y teithiau, wybodaeth ynghylch adar, hanes neu ddaeareg leol. Ar ddiwedd taith, yn arbennig y rhai byrrach, byddwn yn mynd am bryd o fwyd a diod yn lleol. Nid oes angen i chi fod yn un o Gyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn i ymuno â thaith gerdded, mae croeso bob amser i bobl newydd ddod hefo ni ar daith.
Ceir gwybodaeth isod am y teithiau sydd wedi’u cynllunio a cheir manylion pellach ar wefan Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn:
A fyddech cystal, os gwelwch yn dda, a gwisgo esgidiau cerdded, dillad addas a dewch â lluniaeth hefo chi. Ni chaniateir cŵn ar rai teithiau
Teithiau Cerdded
Dydd Sadwrn 4 Chwefror 2012 - Cylchdaith o Draeth Llugwy i Fynydd Bodafon
Cerdded cymedrol: Golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir ac uwch ei ben, oddeutu 8 milltir.
Cyfarfod ym maes parcio bychan Traeth Llugwy (yr un heb gaffi) am 10 o’r gloch y bore.
Cyfeirnod Grid. SH493873. Llywio â Lloeren. N 53º21'40” W 4º15'58"
Arweinwyr: Sheila a Richard 01248 713608
Dydd Sadwrn 3 Mawrth 2012. Brynsiencyn – Cylchdaith Tal-y-Foel
Taith gerdded hawdd ar hyd Llwybr yr Arfordir a’r traeth gyda golygfeydd ar draws Afon Menai gan ddychwelyd ar hyd llwybrau a lonydd bychan cefn gwlad; oddeutu 5 milltir.
Cyfarfod yn y maes parcio gyferbyn â Gwesty’r Groeslon, Brynsiencyn am 10 o’r gloch y bore.
Cyfeirnod Grid. SH485671. Llywio â Lloeren. N 53°10'46” W4°16'6"
Arweinwyr: Gill & John 01248 712793
Dydd Sul 11 Mawrth 2012 - Cemlyn i Borth Swtan
Cerdded cymedrol. Golygfeydd godidog o’r clogwyni, oddeutu 7 milltir.
Cyfarfod ym maes parcio Bae Cemlyn am 10 o’r gloch y bore i rannu ceir.
Cyfeirnod Grid. SH33709315. Llywio â Lloeren. N 53°24'32” W4°30'12"
Arweinydd: Ron 01407 742788
Gellir gweld lleoliadau map yr holl fannau cyfarfod ar wefan y Cyfeillion:
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/calendar