Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Fuoch chi ‘rioed yn morio?

Mae'r regatta enwog yma'n dychwelyd am flwyddyn arall.

Regatta y Fenai - 30/7 - 13/8

Pythefnos o regatta hwylio sy’n cynnwys râs o amgylch Ynys Môn, y râs enwog o dan y ddwy bont i Gaernarfon a rasiau amrywiol i leoliadau gan gynnwys Biwmares, Bangor, Caernarfon a Port Dinorwig.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru gweler http://www.menaistraitregattas.org.uk

Yn naturiol, mae Ynys Môn, gyda’i hanes balch a sylweddol o fordwyo, yn llawn o wybodaeth am faterion hwylio. Ewch i mewn i’r tafarnau a’r gwestai sy’n wynebu’r môr ac ni ellwch beidio â sylwi ar y galerïau o ffotograffau o gychod hwylio, llongau a golygfeydd morwrol.

Gwrandewch ar y sgyrsiau, yn foesgar, ac ni ellwch osgoi clywed mân siarad am bethau’r môr...y gwynt, y llanw, yr ymchwydd, faint o bysgod a ddaliwyd, beth a welwyd – i gyd yn hynod gredadwy. Mae hyd yn oed pobl y tir sych yn medru gwerthfawrogi sut beth fyddai hwylio o amgylch arfordir Ynys Môn gydag Eryri yn y cefndir.
Felly nid yw’n syndod fod yr ynys hon wedi cynhyrchu hwylwyr a morwyr sy’n bencampwyr cyfoes ar lefelau cystadlu Prydeinig, Ewropeaidd a’r byd.

Ni fydd yn syndod i chi chwaith fod ar yr ynys nifer iach o glybiau hwylio, a llithrfeydd porthladd ar gyfer cychod sy’n ymweld. Cewch wybodaeth ar wasanaethau morwrol a chyfleusterau a ddarperir gan y cyngor a mudiadau eraill ar safle we Cyngor Sir Ynys Môn - Gwasanaethau morwrol.

“Pan fo gennych le fel Ynys Môn gyda chymaint o glybiau hwylio, porthladdoedd a thraethau” eglura Tim Hall, Cyfarwyddwr Hwylio Perfformiad gyda Chymdeithas Cychod Hwylio Cymru, “mae’r ieuenctid wedi eu trochi ynddo o’r crud”.

Ar hyn o bryd, mae criw o forwyr talentog sy’n gwisgo lliwiau Prydain Fawr ar wahanol lefelau, y brodyr Môn, Bleddyn, Eifion, a Dyfrig o Draeth Coch, ac yna Huw a Tim Humphreys.

Efallai fod caeau rygbi a pheldroed yn meithrin talentau mawr trwy Gymru, ond yn Ynys Môn mae’r diwylliant yn wahan. Nid ydych byth ymhell oddi wrth yr arfordir, ac yn sicr ddim oddi wrth wynt y môr.

Mae digonedd o glybiau hwylio – Traeth Coch, Caergybi, Rhosneigr, Bae Trearddur, a dau, y Royal Anglesey a’r North West Venturers Yacht Club ym Miwmares. Ffoniwch nhw neu galwch heibio.

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :