Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Pysgota o'r lan

Mae pysgota o'r lan yn boblogaidd iawn ym Môn, ond eto oherwydd yr afordir maith, gellwch bob amser ddod i hyd i fannau tawel cysgodol i bysgota'n heddychlon.

Mae nifer o fannau sefydledig ar gyfer pysgota o'r lan. Ym mhob lle, ceir mannau parcio, yn ogystal â gwasanaethau eraill, ac mae golygfeydd godidog allan i'r môr ym mhob un.

Mae amrywiaeth fawr o bysgod y gellwch eu dal ac maent yn amrywio yn ôl y tymor, gan gynnwys y Morlas, Bull Huss, Celog, Penfras, Llysywen Bendoll, Llythen, Morgi, Lleden, Mecryll, Hyrddyn, Lleden Smotyn Coch, Morlas, Morgath yn cynnwys y forgath bigog, morgath llygaid bach, morgath fannog, a'r forgath felen, Smoothhound, Môr-wyniad, a Gwrachen y Môr.

Aberffraw -  Pysgota o 'r traeth

Ar yr A55 tua Chaergybi hyd at y troad am Rhosneigr. Ewch ymlaen i Aberffraw ar hyd yr A4080. Ewch dros yr afon a pharciwch ger y twyni tywod ar y dde. SH 354680. Parcio SH 357690

Amlwch - Pysgota o Borth Llechog

Cymerwch yr A5025 i Amlwch, ewch ymlaen trwy'r dref am 300 llath a pharciwch yn y gilfach barcio ar y dde. Dilynwch y llwybr sydd yn union uwchben y gilfach trwy'r giat mochyn Parcio SH 430937

Amlwch - Pysgota o Llam Carw

Cymerwch yr A5025 i Amlwch, trowch i'r dde wrth y gylchfan ac i'r dde unwaith eto wrth y gyffordd T. Trowch i'r chwith yn y sgwar ac ewch ymlaen am hanner milltir. Peidiwch â mynd am yr harbwr ac ewch ymlaen i'r maes parcio. Parcio SH 453936

Bae Trearddur - Pysgota o  Graig Macrell

Ar yr A5 i'r Fali trowch i'r chwith i fynd ar y B4545, ewch ymlaen am 3 milltir, cymerwch y troad i'r chwith am Ynys Lawd. Wrth gyrraedd y traeth cymerwch y troad cyntaf ar y chwith ac yna'r ail droad ar y chwith a pharciwch. Parcio SH 247791

Bae Trearddur - Pysgota o Ravens Point

Ar yr A5 i groesffordd y Fali, trowch i'r chwith i fynd ar y B4545 ac ewch ymlaen am 3 milltir. Trowch i'r chwith i ffordd Ravens Point, mae'r pwynt tua tri chwarter milltir i'ch blaen, parciwch gerllaw stad Ravens Point ond nid ynddi, fe allwch gael eich clampio. Parcio SH 250779

Biwmares - Pysgota o'r Pwynt

Ar yr A545 o Borthaethwy i Fiwmares, ar ôl tua 3 milltir fe welwch Y Pwynt ar y dde i chi. Parciwch yn y gilfach barcio o bobtu'r pwynt. Parcio SH 597752

Caergybi - Pysgota o Forglawdd Caergybi

Ewch i mewn i Gaergybi, trowch i'r chwith ger y rheiliau arian. Ewch ymlaen dros y ddwy gylchfan fechan, ac yna cymerwch y troad nesaf i'r chwith. Trowch i'r dde, i lawr at y Morglawdd. Parcio SH 237837

Cemaes - Pysgota o Bentir Wylfa

Dilynwch yr A5025 i Orsaf Bwer yr Wylfa sydd i'r gorllewin o Gemaes. Dilynwch yr arwyddion am yr Wylfa ac yna trowch i'r dde a pharciwch. Parcio SH 355945

Cemaes - Pysgota o Lanbadrig

Cymerwch yr A5025 o Fali i Amlwch ar ochor ddwyreiniol Cemaes, dilynwch yr arwyddion am Eglwys Llanbadrig a pharciwch yno. Parcio SH 375947

Llanddona - Pysgota o 'r traeth

O Fiwmares i mewn i Landdona ewch ymlaen a throwch i'r chwith i lawr i'r traeth. Parciwch ar lan y môr. Parcio SH 567806

Llanfachraeth - Pysgota o Borth Tywyn Mawr

Ar yr A5 i'r Fali, trowch i'r dde i fynd ar yr A5025 trwy Llanfachreth. Cymerwch y troad nesaf i'r chwith am Barc Carafannau Penrhyn, heibio'r eglwys, trowch i'r chwith gyferbyn a'r ciosg ffôn, ar ôl 300 llath trowch i'r dde am y traeth a pharciwch wrth ymyl y ffordd. Parcio SH 289850

Lligwy - Pysgota o 'r traeth

Ar yr A5025 i Foelfre ewch ymlaen tua Brynrefail, mae arwydd am y traeth ar y brif ffordd. Mae digon o le i barcio ond hwyrach y buydd rhaid i chi dalu yn ystod misoedd yr haf.

Niwbwrch - Pysgota o 'r traeth

Ar yr A4080 i mewn i Niwbwrch, trowch i'r chwith gyferbyn â'r siop Spar, ewch ymlaen at y tollborth (cost £2), parciwch ger y twyni. Parcio SH 405634.

Penmon - Pysgota o Drwyn Du

O Fiwmares cymerwch y B5109 i Benmon. Ewch ymlaen trwy Lanfaes, at y groesffordd, trowch i'r dde a dilynwch yr arwyddion am Benmon am tua 3 milltir. Bydd rhaid i chi dalu i barcio yn ystod yr haf. Parcio SH 641813

Plas Newydd - Pysgota o Foel y Don

Ar yr A4080 o Lanfair PG i Frynsiencyn, heibio Plas Newydd. Ceir arwydd am Foel y Don wrth y groesffordd gyntaf. Trowch i'r chwith, ewch ymlaen i'r maes parcio. Parcio: SH 519677

Pont Britania

Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ar ôl y bont, i fynd ar y A4080. Ar ôl 100 llath trowch i'r chwith, ewch o dan y bont i faes parcio'r eglwys. Parcio SH 537712

Rhosneigr - Pysgota o Borth Trecastell

Ar yr A55 tua Chaergybi hyd at y troad am Rhosneigr, ewch ymlaen ar hyd yr A4080 am 2 filltir hyd nes cyrraedd y maes parcio (toll yn daladwy yn yr haf) SH 334707

Rhosneigr - Pysgota o Draeth Cymyran

Cymerwch yr A5 i Gaergeiliog, ewch ymlaen at y tolldy crwn. Trowch i'r chwith ac ewch ymlaen at drac lludw garw, ewch ymlaen wedyn i'r pen a pharciwch (gall y maes parcio fod ar gau yn yr haf. SH 300752. Parcio SH 302763

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
Gweld fy nheithlen
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

dolenni

Chwiliwch drwy ein hadain "Beth i'w wneud" am fanylion ar gychod siarter a siopau pysgota a thacl lleol ar yr ynys.

I siecio'r llanw gweler Admirality EasyTide

Manylion ar: Cyngor Sir Ynys Mon - Gwasanaethau morwrol

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :