Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Codi Sbwriel ar y Llwybr Arfordirol

Ers ei sefydlu, mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn wedi cynnal rhaglen codi sbwriel ar hyd y Llwybr Arfordirol a thraethau sydd yn cysylltu â fo.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhaglen wedi datblygu ac ymestyn gyda chymorth nifer o grantiau gan Cadwch Gymru’n Daclus, sydd hefyd yn darparu yswiriant ar gyfer y cyfan o’n gweithgareddau. 

Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn codi sbwriel bob mis ar gyfartaledd naill ai ar fore dydd Mercher, neu ddydd Sadwrn, ac mae pob sesiwn yn parhau oddeutu 2-3 awr.  Rydym yn trefnu i Grŵp Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn gasglu popeth yr ydym yn ei godi ar yr un diwrnod.  Yn aml iawn, rydym yn cael cefnogaeth gan ac yn ymgynghori gyda grwpiau sydd o’r un anian ar Ynys Môn.  Mae croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau ddod i ymuno hefo ni.  Mae boddhad personol mawr i’w gael o adfer ardal sydd wedi mynd yn flêr oherwydd effaith y gwyntoedd a’r llanw i’w chyflwr naturiol pur.  Yn ychwanegol at hyn, mae’r sawl sy’n cerdded ar y Llwybr Arfordirol yn cael profiad brafiach o lawer.

Ceir gwybodaeth ar y gweithgareddau codi sbwriel sydd wedi cynllunio isod a cheir manylion pellach ar wefan Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn:

https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/litter-picks 

Darperir offer codi sbwriel, menig a bagiau ond a fyddech cystal, os gwelwch yn dda, a gwisgo dillad addas ac mae’n syniad da dod â bwyd/diod.

Ymholiadau pellach i:  Wenda 01407 860175; Carolyn 01407 860796; neu John 01248 712793 a hefyd yn angleseycoastalpath@gmail.com

Hoffem gael gwybod am unrhyw rannau o’r Llwybr Arfordirol lle mae sbwriel yn broblem reolaidd ynghyd ag awgrymiadau penodol ar gyfer lle i godi sbwriel yn y dyfodol.

Cagliad Sbwriel 2012

Trefniadau Casglu Sbwriel

Dydd Mercher 1 Chwefror 2012 - Porth Trefadog, Llanfaethlu

Rhan odidog o’r arfordir sydd, er syndod, yn ddieithr i lawer o bobl; mae llawer o sbwriel yn cronni yno ac mae’r amser wedi dod eto i gasglu’r sbwriel oddi yno.

Cyfarfod yn y traeth am 10 o’r gloch y bore.

Cyfeirnod Grid.  SH293862.  Llywio â Lloeren N53°20'42” W4°33'56"
Arweinwyr: Carolyn 01407 860796 a Wenda 01407 860175

Dydd Mercher 15 Chwefror 2012 - Porth Trecastell

Nid yw’r gweithgareddau casglu gwastraff hyn yn addas i’r gwangalon!  Bydd yn cychwyn gyda thaith gerdded fer ar hyd y llwybr gan sgrafangu i lawr wedyn at amryw o gildraethau sydd angen sylw.

Cyfarfod ym Mhorth Trecastell am 10 o’r gloch y bore.

Cyfeirnod Grid.  SH333707.  Llywio â Lloeren. N 53°12'26” W 4°29'51”
Arweinydd: Ed 01407 840600

Dydd Mercher 29 Chwefror 2012 - Cob Malltraeth a’r Llwybr Arfordirol cyfagos

Ym mis Awst 2010, cliriwyd llawer iawn o sbwriel o’r ardal hon gan Gyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn; mae sbwriel yn cael ei olchi i’r lan yn barhaus yma ac felly mae angen ymweld unwaith yn rhagor i ychwanegu at y gwaith da a wnaed gan wirfoddolwyr ABC yma.

Cyfarfod yn y maes parcio wrth y bont ym mhentref Malltraeth am 10 o’r gloch y bore.

Cyfeirnod Grid.  SH407688.  Llywio â Lloeren. N 53°11'33” W 4°23'9"
Arweinwyr: John a Gill 01248 712793

Dydd Mawrth 13 Mawrth 2012 - Traethau Rhoscolyn (Borthwen a Phorth y Corwgl)

Cyfarfod yn y prif faes parcio am 10 o’r gloch y bore.

Cyfeirnod Grid.  SH273751.  Llywio â Lloeren. N 53°14'41” W4°35'23"
Arweinwyr: John a Gill 01248 712793

Gellir gweld lleoliadau map yr holl fannau cyfarfod ar wefan y Cyfeillion:
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/calendar

Bydd ffyn, bagiau a..y.b. ar gael, gwisgwch ddillad addas, mae mennyg yn ddefnyddiol. Cofiwch ddod â lluniaeth a diod.
Am fanylion am sesiynnau dydd Sadwrn cysylltwch â John 01248 712793 jandgpayne@btinternet.com. Am fanylion dyddiau Mercher, cysylltwch â Wendy 01407 860175 neu Carolyn 01407 860796
Pe byddai gan rhywun syniad am ardal sydd angen ei glirio: llwybrau glannau môr a.y.y.b, cysylltwch â'r uchod os gwelwch yn dda.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
Gweld fy nheithlen
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :