Hen fecws
Yn 2003, wedi bron i 60 mlynedd o sefyll yn adfail, cloddwyd becws Llynnon. Os ewch am dro i lawr at y becws cewch ddysgu mwy am draddodiadau cefn gwlad Ynys Môn yn ystod y 19eg a'r 20fed Ganrif.
Llwybr melinau
Yn ymuno Melin Llynnon a Melin Ddŵr Howell - mae taith tair milltir a gymerir rhyw awr a chwarter i'w cherdded.
Cegin Llynnon
Nid oes, mwy na thebyg, le prydferthach i fwynhau te traddodiadol Cymreig ym Môn na Chegin Llynnon. Cewch yma gynnyrch cartref blasus yn ogystal a dewis eang o brydau maethlon.
Siop Llynnon
Gyda detholiad o nwyddau - llyfrau, tegannau, gwaith celf ac anrhegion ac addurniadau arbennig mae Siop Llynnon hefyd yn gartref i lu o waith crefft newydd a dyfeisgar.
Urdd Crefftwyr Ynys Môn
Mae siop y Gymdeithas Crefftwyr yn gwerthu pob math o gynnyrch difyr a diddorol, a'r cyfan yn waith llaw o Ynys Môn.