Mae’r llifeiriant cynddeiriog llanw sianelog ugain troedfedd Afon Menai wedi bod yn elyn a chyfaill i bobl Ynys Môn.
Yn yr hen amser, roedd goresgynwyr ac ysbeilwyr yn meddwl ddwywaith cyn croesi. I’r rhai a anelai at y tir mawr gyda’u badau bregus, byddai’r siwrnai yn aml yn arwain at drasiedi a cholli bywyd. Roedd y dyfroedd hyn, ac maent yn dal heddiw, yn dwyllodrus.
Rhoddwyd y dasg o gynllunio ac adeiladu pont, yn pontio 579 troedfedd (176.5m) o lan i lan ac ar yr un pryd yn caniatáu i longau hwylio ar hyd y Fenai yn ddirwystr, i fab bugail tlawd o’r Alban – un Thomas Telford. Pont Grog Menai fyddai ei her fwyaf a’i orchest wychaf.
Naddwyd y cerrig o chwareli Penmon gerllaw, a’u cludo i’r safle ar gwch. Cynhyrchodd ffowndri o’r Amwythig y Gwaith haearn, a dechreuodd y gwaith yn 1819. Agwedd hynotaf yr her oedd i griwiau o 150 o ddynion wneud y gwaith adeiladu, halio, gwthio a thynnu. Cymerodd saith mlynedd iddynt ei chwblhau, ac mae’n dal hyd heddiw yn un o’r golygfeydd a’r gofeb sy’n atgoffa rhywun fwyaf o dechnoleg a menter y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, gydag ehangu rheilffordd ar y tir mawr, codwyd y pwnc o gyswllt rheilffordd uniongyrchol rhwng Llundain a fferïau Iwerddon. Yn ddiolchgar rhoddwyd y gorau hefyd i’r syniad y gallai ceffylau dynnu cerbydau rheilffordd dros hen Bont Telford.
Agorwyd Pont Britania, sydd bellach wedi’i haddasu’n fawr, ac yn cario trafnidiaeth reilffordd yn ogystal â cheir a lorïau, ar Fawrth y 5ed 1850. Mae’r ddwy bont yn dirnodau enwog led led y byd ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i gynifer.
Darganfyddwch fwy drwy ymweld ag Arddangosfa’r Pontydd - a gwelwch drosoch eich hun sut y lluniwyd ac yr adeiladwyd y pontydd.