Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Pysgota gem

Mae cyfleusterau rhagorol ar gael i bysgota gem yn llynnoedd yr ynys.

Un pysgodyn cyffredin yw'r Brithyll ac mae'n bridio yn llynnoedd Môn; mewn rhai llynnoedd cedwir y Brithyll Seithliw; hefyd rhed y Sewin i fyny nifer o afonydd a nentydd ac yn achlysurol mae'r Eog yn cael ei ddal.

Tair canolfan o bwys sydd yma i bwrpas pysgota gem, sef Llyn Alaw sy'n 800 acer (324 hectar) o fesur ac yn cynnig cyfle i bysgota gyda phluen, cynrhon neu sbiner am y Brithyll Cyffredin, y Brithyll Seithliw a'r Rhuddgoch; wedyn mae Llyn Cefni sy'n 175 acer (71 hectar) a chyfle yno i bysgota am y Brithyll Cyffredin a'r Brithyll Seithliw gyda phluen ac yn olaf Llyn Coron sy'n 80 acer (32 hectar) ac yn adnabyddus am ei Frithyll a'i Sewin - y Sewin yn nofio i fyny Afon Ffraw i'r llyn. Yn y llyn hwn mae stoc o Ddraenogiaid.

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :